
Rydyn ni’n credu fod ein haelodau’n arwain y ffordd wrth osod safonau i bawb yn ein diwydiant - dyma eich cyfle chi i gael eich cydnabod a’ch dathlu.
Bydd ein henillwyr yn cael eu dewis gan banel o feirniaid arbenigol sy’n cynrychioli sefydliadau yn y sector. Bydd gan y beirniaid yr wybodaeth a'r profiad i asesu pob enwebiad yn unol â'i amcanion.
Rhaid i ymgeiswyr cytuno â’r telerau ac amodau llawn.

Mae Gwobrau Blynyddoedd Cynnar Cymru yn ôl yn 2023 a gyda fformat newydd sbon!
Mae'n bleser gan Blynyddoedd Cynnar Cymru roi gwahoddiad i aelodau i ymuno â ni ar gyfer dathliad o'r Sector Blynyddoedd Cynnar yng Nghymru wrth i ni hyrwyddo'r angerdd a'r ymroddiad a ddaw yn sgil ein haelodau i'r sector gofal plant yng Nghymru.
Gan gyfuno ein gwobrau blynyddol gyda rhaglen gyffrous o rai gwesteion arbennig iawn mae cynhadledd Blynyddoedd Cynnar Cymru yn gyfle perffaith i ymarferwyr ddod at ei gilydd i rwydweithio a chael eu hysbrydoli.
Tocynnau Cynnig Cynnar: Gan gyfuno ein gwobrau blynyddol gyda rhaglen gyffrous o rai gwesteion arbennig iawn mae cynhadledd Blynyddoedd Cynnar Cymru yn gyfle perffaith i ymarferwyr ddod at ei gilydd i rwydweithio a chael eu hysbrydoli. Tan 4yp ddydd Gwener, 3ydd Chwefror .