Cefnogaeth Ganolog

Pan fyddwch yn ymuno â Blynyddoedd Cynnar Cymru byddwch, yn awtomatig, yn gallu manteisio ar dros 244 o flynyddoedd o arbenigedd Blynyddoedd Cynnar.

Central Support super heroes

Does yna ddim llawer nad ydyn ni’n ei wybod am y sector Blynyddoedd Cynnar yng Nghymru. Mae ein staff, profiadol ac sydd wedi’u hyfforddi i safon uchel, yma i ddarparu cefnogaeth ac arweiniad i’n haelodau.

Mae ein tîm Cefnogaeth Ganolog yma’n benodol i ateb eich ymholiadau ynglŷn â Chofrestru, Polisïau a Gweithdrefnau, Rheoliadau, rhedeg eich lleoliad Blynyddoedd Cynnar o ddydd i ddydd a llawer mwy.

 

Drwy ddim ond codi’r ffôn a ffonio’n llinell Gefnogaeth Ganolog, mae aelodau Blynyddoedd Cynnar Cymru’n gallu bod yn sicr o allu trafod unrhyw broblem a gwybod fod yr wybodaeth a geir yn ddibynadwy a’r mwyaf diweddar!

Cofiwch fod croeso i chi ein ffonio / e-bostio os ydych eisiau holi neu angen eglurhad ar fater penodol.

Gallwch gysylltu â ni:

Dydd Llun i Ddydd Gwener 9am i 5pm:

029 2045 1242

Ar adeg hwylus i chi: [email protected]

Gweler hefyd: Cwrdd â’r tîmSwyddfeydd Rhanbarthol

Early Years Wales provides support for a wide range of topics. You can find important information about matters relating to childcare below: 

GDPR

Yn eich cefnogi trwy’r newid…

Deddf newydd gan yr Undeb Ewropeaidd yw’ryw’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol a ddaeth i rym ar 25 Mai 2018.  Mae’n disodli Ddeddf Gwarchod Data 1998 a bydd y newidiadau’n parhau hyd yn oed ar ôl i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd yn 2019.

O dan y Rheoliadau bydd gan unigolion fwy o reolaeth dros eu data personol eu hunain. Efallai bod gan eich lleoliad eisoes bolisi diogelu data ond bydd y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol yn newid cryn dipyn ar y rheolau presennol.  Er nad yw’n gwbl sicr sut yn union y bydd y Rheoliadau’n cael eu gweithredu’n ymarferol, mae rhai pethau eisoes yn glir. Dylai darparwyr meithrinfeydd a gofal plant fod wedi clywed am y rhain erbyn hyn ac yn dechrau cymryd camau i baratoi ar eu cyfer mewn da bryd.

Ond, does dim angen poeni gormod. Esblygu mae’r newiadau o dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol nid achosi chwyldro. Fodd bynnag, fe ddylech gymryd y camau priodol er mwyn cydymffurfio.

Mae Blynyddoedd Cynnar Cymru yma i gefnogi ein haelodau trwy’r newid hwn. Dros y misoedd diweddar rydym wedi cyhoeddi gwybodaeth arweiniol ar sut y gallwch chi baratoi ar gyfer y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol, pob un ohonynt ar gael isod!

Rydym hefyd wedi paratoi ‘Canllawiau i Aelodau ar gyfer Polisïau Preifatrwydd’ ond mae’n bwysig nodi mai arweiniad yn unig yw’r rhain. Bydd gan bob lleoliad ei ofynion a’i amgylchiadau ei hunan i’w hystyried. Am ragor o wybodaeth ac enghreifftiau o bolisïau ewch i: ico.org.uk

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â: [email protected]

Music License

Mae hwn yn gwestiwn sy’n codi o bryd i’w gilydd a’r ateb yw, heb amheuaeth, oes!

O dan Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988, mae’n rhaid cael caniatâd y sawl sydd piau’r hawlfraint – y rhai sy’n creu, yn recordio ac yn cyhoeddi cerddoriaeth – er mwyn chwarae neu berfformio cerddoriaeth yn gyhoeddus.  I gael caniatâd i chwarae a pherfformio cerddoriaeth yn gyhoeddus, mae’n rhaid i fusnesau ledled y DU brynu TheMusicLicence gan PPL PRS.’

Pan fyddwch yn prynu CDd neu’n talu i lawr lwytho cerddoriaeth neu ffilm, yr hyn ydych chi’n ei brynu mewn gwirionedd yw trwydded sy’n rhoi hawl i chi chwarae gymaint ag a fynnwch mewn lle preifat, anfasnachol, fel yn eich cartref.  Byddai chwarae’r cynnwys yn eich lleoliad (hyd yn oed os ydych chi’n elusen) yn torri cyfraith hawlfraint gan fod hynny’n cael ei gyfrif fel perfformiad cyhoeddus.

Cerddoriaeth

Mae TheMusicLicence mewn cydberchnogaeth gyfartal PPL a PRS for Music. Mae’n rhoi gwasanaeth trwyddedu mwy llyfn i gwsmeriaid ac artistiaid ac yn ei gwneud yn haws i chwarae cerddoriaeth yn gyfreithlon.

Nid treth yw TheMusicLicence ond ffordd o wneud yn siŵr bod pawb sy’n cyfansoddi cerddoriaeth ar draws y byd yn cael eu gwobrwyo’n deg am eu talent a’u gwaith.

https://pplprs.co.uk/themusiclicence/

 ‘Ond does dim rhaid i ysgolion gael un? “

Mae Adran 34 o Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988 yn caniatáu defnyddio gwaith llenyddol, dramatig neu gerddorol sy’n uniongyrchol gysylltiedig â gweithgareddau “sefydliadau addysgol”, h.y. yn uniongyrchol gysylltiedig â’r cwricwlwm, heb drwydded.  Ond, mae’n rhaid i bob gweithgaredd arall, disgos ysgolion, digwyddiadau codi arian, clybiau ar ôl ysgol, ffeiriau ayb gael trwydded i chwarae cerddoriaeth.  Yn anffodus, nid yw meithrinfeydd, cyn-ysgolion a mathau eraill o ddarpariaeth blynyddoedd cynnar yn dod o dan y diffiniad hwn o sefydliadau.

Rydyn ni wedi gofyn i am eglurhad o’r rhesymau am hyn ond, yn anffodus, ni chafwyd ateb cyn cyhoeddi’r rhifyn hwn.  Fodd bynnag, argraffodd yr Early Years Alliance yn rhifyn Mehefin 2019 o gylchgrawn Under 5 fod:

PPL a PRS “wedi cadarnhau nad yw PRS yn codi tâl ar leoliadau preifat, gwirfoddol ac annibynnol am ddefnyddio ei repertoire os yw’n cael ei ddefnyddio’n unig fel rhan o’r Cyfnod Sylfaen Blynyddoedd Cynnar – a fyddai’n golygu mai’r tâl i leoliadau fyddai £41.75 (+TAW) am drwydded PPL.

“Fodd bynnag, os ydych chi hefyd yn defnyddio cerddoriaeth tu allan i’r cwricwlwm Cyfnod Sylfaen Blynyddoedd Cynnar, gan gynnwys dosbarthiadau dawnsio all gwricwlaidd, ffeiriau, clybiau brecwast a cherddoriaeth gefndir ar ffonau, bydd gofyn i chi brynu’r drwydded PPL a PRS lawn am £83.50 (+TAW).

Mae’r erthygl hefyd yn cadarnhau “nad oes raid i ofalwyr plant gael trwydded i chwarae cerddoriaeth yn eu cartrefi eu hunain.  Fodd bynnag, bydd angen trwydded os bydd cerddoriaeth yn cael ei chwarae mewn ystafell sydd wedi’i neilltuo’n benodol ac yn unig ar gyfer gofalu am blant – fel ystafell chwarae sy’n cael ei defnyddio ar gyfer gofal plant yn unig.”

COFIWCH: mai cyfeirio at ddarparwyr yn Lloegr oedd PPL a PRS wrth ymateb.  Bydd Blynyddoedd Cynnar Cymru’n ceisio cael ymateb yn benodol ar gyfer darparwyr yng Nghymru ac yn ei gyhoeddi yma ac ar ein gwefan.

Teledu a ffilm

Mae hyn hefyd yn berthnasol i deledu a ffilmiau.  A ydych yn gwylio wrth iddo gael ei ddarlledu, wedi’i lawrlwytho, yn ei wylio ar ddal i fynu neu ar DVD, dim ond hawl i’w wylio’n breifat ydych chi wedi’i brynu.

Mae’r MPLC (Motion Picture Licencing Company) yn cynrychioli mwy na 1000 o ddeiliaid hawliau fel Walt Disney Pictures, Pixar ac Universal ac mae trwydded MPLC Umbrella Licence® yn caniatáu i chi wylio ffilmiau a theledu yn eich lleoliad yn gyfreithlon.   Y ffî flynyddol ar gyfer lleoliadau gofal plant yw £3.29 +TAW y plentyn y flwyddyn.

Gellir cael copi o ffurflen gais MPLC a Chwestiynau Cyffredin 2019 drwy’r ddolen isod, neu gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy gysylltu â:

Jennifer Gane ar: 01323 649 647 Est. 3567 neu e-bostio: [email protected]

Nid yw hyn yn golygu, fodd bynnag, nad ydych chi hefyd angen trwydded teledu.  Mae Trwyddedu Teledu wedi cadarnhau wrth Blynyddoedd Cynnar Cymru “o dan Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 fod yn rhaid i gyfeiriad gael trwydded teledu os yw unrhyw un yn gwylio’r rhaglenni teledu sy’n cael eu dangos ar deledu.  Does dim ots pa sianelau sy’n cael eu gwylio neu a yw’r ddyfais yn deledu, cyfrifiadur, ffôn symudol, consol gemau, blwch digidol neu recordydd DVD/VHS.”

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: https://www.tvlicensing.co.uk/check-if-you-need-one/business-and-organisations

Mae trwydded teledu busnes yr un pris â thrwydded teledu i gartref – £154.50 am deledu lliw a £52 am un ddu a gwyn.

“Anaml iawn y byddwn ni’n chwarae cerddoriaeth a dim ond hwiangerddi”

Mae’n hawdd iawn meddwl, dim ond am fod cân yn hen, bod gan bawb hawl i’w defnyddio.  Er fod hyn yn wir am lawer o hwiangerddi, er enghraifft, meddyliwch am y recordiad rydych chi’n gwrando arno.  A yw’r casét / CDd wedi’i drwyddedu i gael ei chwarae’n gyhoeddus?  Mae’n werth nodi y gall hawlfraint gwaith artistig ddod i ben ar adeg gwahanol i hawlfraint y recordiad.

Heb freindal

Does dim rhaid i chi gael trwydded i chwarae cerddoriaeth nad oes freindal arno.

Mae yna ddigonedd o wefannau a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol sy’n hysbysebu dolenni i gerddoriaeth di-freindal.  Ond, er bod gwefannau fel YouTube yn datgan fod pob defnyddiwr sy’n uwchlwytho cerddoriaeth wedi’i drwyddedu heb ganiatâd swyddogol deilydd yr hawlfraint yn torri eu cytundeb defnyddio, ac y bydd unrhyw un sy’n cael ei ddarganfod yn torri hyn yn cael ei ddiarddel, mae’n werth cofio y gallai safleoedd o’r fath fod yn cynnig rhywbeth sy’n rhy dda i fod yn wir wrth chwarae cerddoriaeth yn eich lleoliad.

“Sut alla i chwarae cerddoriaeth yn gyfreithlon yn fy lleoliad heb dalu am drwydded?

  • Gallai staff a’r plant recordio caneuon allan o hawlfraint eu hunain
  • Gallech chi gomisiynu’r hawliau i gerddoriaeth a’r recordiadau eich hunan – byddai adnabod pobl a fyddai’n gwneud hyn am ddim neu am ychydig iawn o fantais
  • Gallech chi brynu cerddoriaeth nad yw’n dod o dan PRS na PPL, ond mae hyn yn gallu bod yn ddrud a gallai fod yn rhatach yn y tymor hir dalu am TheMusicLicence.

Chwarae cerddoriaeth drwy wasanaethau ffrydio?

  • Spotify/Apple Music/Pandora & Amazon

Mae’n cynnwys ar y llwyfannau hyn yn cael ei uwchlwytho’n uniongyrchol gan y cyhoeddwyr sy’n golygu y byddwch yn gwrando ar gerddoriaeth a phodlediadau sydd â hawlfraint ac yn gyfreithlon.   Ond cofiwch, a ydych chi’n gwrando arnyn nhw yn rhad ac am ddim am gyfnod penodol neu yn talu tanysgrifiad misol, dim ond trwydded i wrando ar y cynnwys yn breifat sydd gennych chi.

Mae Spotify wedi creu llwyfan i fusnesau o’r enw Soundtrack your brand sy’n cael gwared ar bryderon trwyddedu.   Gallwch ei brofi’n rhad am ddim am 30 diwrnod ac yna dalu tanysgrifiad misol o £26.99 https://www.soundtrackyourbrand.com/spotify-business

  • YouTube/Soundcloud

Y gwahaniaeth rhwng y llwyfannau hyn a’r rhai a grybwyllir uchod yw y gall unrhyw un gyda phroffil uwchlwytho’r cynnwys i’r proffil hwnnw ac y gall unrhyw un arall ffrydio’r cynnwys oddi ar y cyfrif hwnnw.   Fodd bynnag, mae’r llwyfannau hyn yn dal i ddisgwyl i ddefnyddwyr gadw at y deddfau hawlfraint a bydd yn rhaid cael y trwyddedau priodol i’w chwarae’n gyhoeddus.

Application Form
AtodiadMaint
PDF icon Application form - TV and film387.52 KB
MPLC

Cysylltwch â ni

 

Defnyddiwch y ffurflen isod i anfon eich ymholiadau a'ch adborth atom ni. *Mae angen gwybodaeth

Ein Swyddfeydd Rhanbarthol

Ble bynnag yr ydych, mae Blynyddoedd Cynnar Cymru’n ceisio bod â swyddfa yn agos atoch chi. Os ydych chi angen ein cefnogaeth, rhowch alwad i ni a gallwn drafod eich ymholiad neu drefnu i un o’n staff cefnogi gyfarfod â chi.

Ein horiau swyddfa yw Dydd Llun – Dydd Gwener (9am – 5pm)