Fel y sefydliad ymbarél arbenigol arweiniol yng Nghymru, credwn y dylai rhieni a gweithwyr proffesiynol sy'n magu ac yn gofalu am blant ifanc fod wrth wraidd llunio polisïau a'u cefnogi i sicrhau bod plant yng Nghymru yn cael y dechrau gorau mewn bywyd.
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi ein haelodau drwy rannu gwybodaeth a darparu arweiniad. Rydym yn cefnogi ein haelodau i ddarparu rhaglenni ymyrraeth gynnar a gwasanaethau teuluol. Rydym yn darparu cefnogaeth o ansawdd uchel i aelodau, gan gynnwys cymorth busnes cyffredinol a phwrpasol, cynllun sicrhau ansawdd mewnol, datblygiad proffesiynol helaeth a rhaglenni dysgu, a chynrychioli llais ein haelodau mewn trafodaethau polisi gyda Llywodraeth Cymru.
Rydym yn cynnig aelodaeth i amrywiaeth eang o ddarparwyr gofal plant ac unigolion yn y blynyddoedd cynnar.
Sut rydym ni'n helpu ein haelodau
- Cymorth busnes cyffredinol a phwrpasol
- Negeseuon yn rheolaidd gyda diweddariadau a newyddion y sector
- Cymorth gyda chofrestru a gofynion Arolygiaeth Gofal Cymru
- Mynediad i bolisïau templed unigryw aelodau a phecynnau gweithdrefn*
- Cymorth tendro
- Cefnogaeth recriwtio a chadw
- Cefnogaeth a chyngor ar y Cwricwlwm
- Cyfeirio a chefnogi cymhwyster Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar
- Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) cymorth
- Gwybodaeth i gefnogi ymgorffori dysgu seiliedig ar chwarae
- Datblygu polisïau yng Nghymru sy'n gyfoethogi ECPLC
- Cynrychioli barn ein haelodau i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth Leol
- Cyrsiau Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP)
- Cyfleoedd dysgu rhithwir a chyfleoedd rhwydweithio gyda aelodau eraill
- Cynllun Sicrhau Ansawdd*
- Datblygu a chefnogi'r Gymraeg
- Mynediad a chefnogaeth gyda Camau, y cwrs Iaith Gwaith pwrpasol
- Cefnogi elusennau a mudiadau gwirfoddol
- Dathliadau a chydnabyddiaeth o effaith y gweithlu
- Gostyngiadau aelodau ar Adnoddau.
- Tanysgrifiad i gylchgrawn aelodau, smalltalk a mynediad i gopïau cefn
- Hysbysebu ar dudalen 'Chwilio am Ofal Plant' Blynyddoedd Cynnar Cymru
- Hysbysebu swyddi gwag ar wefan a thudalennau cyfryngau cymdeithaso
- Mynediad i gyfraddau gostyngol am Towergate, TTS ac uCheck
*Costau ychwanegol yn berthnasol
Atodiad | Maint |
---|---|
Pecyn Gwybodaeth Aelodaeth | 2.42 MB |
2024/2025
Dyw dod yn aelod erioed wedi bod mor hawdd. Gallwch GOFRESTRU AM DDIM* (Saesneg) heddiw a chael mynediad at amrywiaeth eang o gefnogaeth, hyfforddiant ac adnoddau a ddatblygwyd ar gyfer aelodau yn unig.
Bydd yr holl aelodaeth yn dod i ben ar 31 Mawrth 2025.
Oes gennych ymholiad ynglŷn â'r categori aelodaeth gorau i chi? Cysylltwch â ni i gael mwy o wybodaeth ar [email protected] neu 029 2045 1242.
*Aelodaeth Gorfforaethol heb ei gynnwys mewn cynnig aelodaeth am ddim.