Ein prif weithgaredd yw gwella datblygiad ac addysg plant cyn-ysgol yng Nghymru drwy annog rhieni i ddeall a darparu ar gyfer eu hanghenion drwy ddarpariaeth a gofal plant cyn-ysgol o safon uchel.
Mae Blynyddoedd Cynnar Cymru eisiau cefnogi'r holl blant cyn-ysgol, eu teuluoedd a darparwyr Blynyddoedd Cynnar ledled Cymru i gael y dechrau gorau mewn bywyd drwy:
- Gefnogi darparwyr gofal blynyddoedd cynnar
- Cefnogi teuluoedd i gymryd rhan mewn chwarae
- Hyrwyddo gwaith Blynyddoedd Cynnar Cymru'n eang
- Cyfrannu ar weithredu polisi ar lefelau Cenedlaethol a Lleol
- Datblygu Partneriaethau
- Cynnal a datblygu llywodraethiant a rheolaeth sefydliadau
- Recriwtio a datblygu staff a gwirfoddolwyr
- Chwilio am, a rheoli, cyllid i gynnal ac ymestyn ein gwasanaethau
Sut ydyn ni'n gwneud hynny
Mae Blynyddoedd Cynnar Cymru wastad wedi cefnogi rhieni a theuluoedd i gymryd rhan yn natblygiad eu plant. Roedd hyn yn amcan craidd y sefydliad pan gafodd ei sefydlu ac rydyn ni'n dal i ddatblygu ffyrdd i sicrhau bob teuluoedd yn derbyn cefnogaeth o adeg geni a gydol eu blynyddoedd cynnar.
Rydyn ni'n credu, er mwyn rhoi'r cychwyn gorau i blant Cymru mewn bywyd, bod yn rhaid i ni ddarparu gwasanaethau sy'n hyrwyddo datblygiad plant ac yn cefnogi teuluoedd.
Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi aelodau drwy rannu gwybodaeth a darparu canllawiau, rydyn ni'n cefnogi ein haelodau i ddarparu rhaglenni ymyrraeth gynnar a gwasanaethau i deuluoedd, yn darparu cefnogaeth a chynrychiolaeth o safon uchel i'n haelodau a hefyd drwy gynnig ein cynllun sicrwydd ansawdd achrededig ein hunain – Ansawdd i Bawb (QfA). Fel elusen, rydyn ni'n gweithio ar y cyd â sefydliadau eraill gan gynnwys rhai blynyddoedd cynnar, addysg gofal plant, elusennau chwarae ac asiantaethau statudol, i ddarparu ein gwasanaethau, megis mynediad at ofal plant a darpariaeth chwarae fforddiadwy, hyblyg ac o ansawdd uchel.
…yn bennaf oll, rydyn ni yma i gynnig clust i wrando ac i gefnogi ein haelodau i gyrraedd eu hamcanion.