Arolygiaeth Gofal Cymru yw rheolydd annibynnol gofal cymdeithasol a gofal plant yng Nghymru.
Mae'r Arolygiaeth yn cofrestru, yn archwilio ac yn gweithredu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er budd pobl Cymru.
Ar y tudalennau hyn, mae llu o ddolenni defnyddiol a nodiadau canllaw yn benodol i'ch cefnogi chi a'ch busnes gofal plant blynyddoedd cynnar.
Mae'r Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth (SASS) bellach yn fyw!
Mae'n ofynnol i Bersonau Cofrestredig ac Unigolyn Cyfrifol ei chwblhau o dan Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 mewn perthynas â monitro cydymffurfiaeth gwasanaeth.
Mae'n ofyniad cyfreithiol i bob gwarchodwr plant a darparwr gofal plant a chwarae gwblhau SASS.
Awgrymiadau defnyddiol SASS:
Mae cynllun strategol yr arolygiaeth yn nodi ein blaenoriaethau dros y tair blynedd nesaf.
Mae wedi nodi tair blaenoriaeth strategol i ddarparu ei gyfeiriad sefydliadol a'i ffocws dros y tair blynedd nesaf:
- Bod yn llais dibynadwy i ddylanwadu ar welliannau a'u llywio
- Darparu gwasanaeth o ansawdd uchel yn gyson
- Bod yn fedrus ac yn ymatebol
Bydd CIW yn adolygu ei flaenoriaethau bob blwyddyn i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn berthnasol ac yn adlewyrchu'r amgylchedd yr ydym yn gweithredu ynddo.
Gwybodaeth ddiweddaraf am Coronavirus Newydd (COVID-19):
Atodiad | Maint |
---|---|
Canllawiau Cofrestru Addasedig i ymgeiswyr a darparwyr mewn ymateb i COVID-19 | 917.35 KB |
Atodiad | Maint |
---|---|
Joint Inspections with Estyn | 214.46 KB |
Atodiad | Maint |
---|---|
National Minimum Standards Review (July 2019) | 700.44 KB |