Mae ein panel eisiau cydnabod eich gwaith a'ch annog i rannu'r gwaith gwych rydych chi'n ei wneud yn eich darpariaeth.
Ar gyfer pob categori dyfarnu fe welwch ganllaw defnyddiol ar yr hyn y mae'r panel yn chwilio amdano a bydd gofyn i chi gyflwyno tystiolaeth i gefnogi eich cais, gallai hyn gynnwys:
- Ffurflen gais wedi'i chwblhau
- Datganiad Ysgrifenedig 6 ochr A4 (ffont o leiaf 10)
- Copïau o'r adroddiadau arolygu diweddaraf (os yw'n berthnasol)
- Adroddiad ansawdd y gofal diweddaraf (os yw'n berthnasol)
- Adborth gan rieni a gweithwyr proffesiynol plant
- Tystebau
- Hyd at 6 lluniau
- Copi o bolisïau sy'n ymwneud â'r amgylchedd (Y Byd Tu Allan)
- Cynllun awyr agored (Y Byd Tu Allan)
- Tystiolaeth o unrhyw ddyfarniad arall (Y Byd Tu Allan)
Gallwch hefyd siarad â'ch timau rhanbarthol am fwy o wybodaeth am y gwobrau, y prosesau ymgeisio a sut i ddangos eich darpariaeth ar ei orau.Gallwch hefyd siarad â'ch timau rhanbarthol am fwy o wybodaeth am y gwobrau, y prosesau ymgeisio a sut i ddangos eich darpariaeth ar ei orau.
Bydd y ffenestr ymgeisio ar agor tan 5yp, 9fed Rhagfyr 2023
Rhaid i ymgeiswyr cytuno â'r telerau ac amodau llawn.