Hyrwyddwr Symud

Cofrestrwch i fod yn Hyrwyddwr Symud heddiw!

Speech bubble that reads "Movement Champion"

Waeth beth yw eich rôl mewn cymdeithas, os oes plentyn yn eich bywyd, mae'r penderfyniadau a wnewch a'r camau a gymerwch yn gosod y sylfeini ar gyfer bywyd y plentyn. Rydyn ni i gyd yn gwybod pa mor bwysig yw symud i blant. O'r manteision corfforol megis datblygu sgiliau echddygol mân a gros, i'r manteision gwybyddol fel cyfathrebu, cymdeithasu a pherthynas â'r amgylchedd lleol, mae symud yn y Blynyddoedd Cynnar yn gosod y tempo ar gyfer datblygu trwy gydol ein bywydau.
 
Ac eto, yn ein cymdeithas fodern, mae cyfleoedd symud wedi dod yn fwyfwy prin i blant, gyda lluosogrwydd technoleg ddigidol yn golygu bod plant yn fwy tebygol o aros yn llonydd am gyfnodau hirach o'r dydd. Mae gormod o amser eisteddog yn negyddol i'r plentyn a gall arwain at broblemau iechyd sy'n cael effaith enfawr ar fywyd yn ddiweddarach.
 
Rydym yn gwybod bod gan bob plentyn brofiad gwahanol o dyfu i fyny, gyda gwahanol raddau o foethau a llwybrau cymorth lle maen nhw'n byw. Mae gan y ffactorau hyn, sy'n digwydd ym mhob agwedd ar fywyd, y potensial i atal datblygiad plentyn, a chyfyngu ar eu potensial i ffurfio arferion iach. I'r plant hyn yn enwedig, mae'r gefnogaeth rydych chi'n ei darparu yn hanfodol, oherwydd efallai na fyddan nhw'n cael cyfle i gael mynediad at gyfleoedd i chwarae, cysgu a dysgu.
 
Felly, mae dod yn 'Hyrwyddwr Symud' yn hanfodol, gan annog cyfleoedd symud i blant ym mhob rhan o'u bywydau, gan helpu eu datblygiad corfforol a gwybyddol.
 
Mae gennych gyfle unigryw i fod ar flaen y gad o ran newid, gan ymuno â ni yn ein hymgyrch. I ddarganfod mwy, cofrestrwch isod i dderbyn ein hadnoddau Hyrwyddwr Symud

Cysylltwch â ni

 

Defnyddiwch y ffurflen isod i anfon eich ymholiadau a'ch adborth atom ni. *Mae angen gwybodaeth

Ein Swyddfeydd Rhanbarthol

Ble bynnag yr ydych, mae Blynyddoedd Cynnar Cymru’n ceisio bod â swyddfa yn agos atoch chi. Os ydych chi angen ein cefnogaeth, rhowch alwad i ni a gallwn drafod eich ymholiad neu drefnu i un o’n staff cefnogi gyfarfod â chi.

Ein horiau swyddfa yw Dydd Llun – Dydd Gwener (9am – 5pm)