Tudalen Rieni

Mae Blynyddoedd Cynnar Cymru wastad wedi annog rhieni a theuluoedd i gymryd rhan yn natblygiad eu plant.  Roedd hyn yn amcan craidd y sefydliad pan gafodd ei sefydlu ac rydyn ni'n dal i ddatblygu ffyrdd i sicrhau bob teuluoedd yn derbyn cefnogaeth o adeg geni a gydol eu blynyddoedd cynnar.

Supporting families

Yn yr adran hon cewch wybodaeth am y gwahanol fathau o ofal plant ac addysg blynyddoedd cynnar sydd ar gael i chi, ynghyd ag arweiniad a fydd yn eich galluogi i ddewis y gofal plant cywir ar eich cyfer chi.

Childcare – What’s it all about

Helpu i ffurfio’u dyfodol

Mae llawer o fanteision i ofal plant ac addysg blynyddoedd cynnar, yn enwedig helpu i ffurfio hyder a chywreinrwydd plentyn cyn dyddiau ysgol. Mae pob profiad a chyffyrddiad yn gyfle i ddysgu i blant ifanc ac mae gofal plant o ansawdd da yn gyfle iddyn nhw ddysgu wrth dyfu. Mae manteision mynychu lleoliad blynyddoedd cynnar i blant yn cynnwys:

  • Cael eu cyflwyno i blant eraill yn y lleoliad, sy'n eu helpu i wella'u sgiliau cymdeithasol ac yn eu galluogi i ganfod sefydlogrwydd mewn grwpiau cyfeillgarwch. Mae plant yn cael cyfle i wneud ffrindiau, dysgu rhannu, cydweithio a dod yn atebol am yr hyn maen nhw'n ei wneud, a'r cyfan mewn amgylchedd ddiogel a chyfforddus.
     
  • Fel arfer, mae sesiynau gofal plant sy'n cael eu cynnal mewn amgylchedd o ansawdd da ac yn cael eu cynllunio i fod yn hwyl ac yn gyffro. Maen nhw'n helpu'r plant i fagu mwy o hyder, cywreinrwydd naturiol a chariad at ddysgu.
     
  • Mae gofal plant yn gallu arwain plant a'u helpu i ddeall fod pawb yn unigryw ac yn arbennig yn eu ffordd eu hunain, a gyda'u credoau, diwylliant ac ethnigrwydd nhw eu hunain. Mae gwerthfawrogi gwahaniaethau ac amrywiaeth yn hanfodol mewn datblygiad cynnar ac mae gweithwyr gofal plant yn gallu bod yn arweinwyr i wneud yn siŵr fod plant yn gwerthfawrogi ac yn derbyn gwahaniaethau.
     
  • Mae gofal plant ac addysg blynyddoedd cynnar yn gallu helpu plentyn i allu cyfathrebu'n well ar oedran cynnar, trwy hybu geirfa'r plentyn, rhan hanfodol o ddatblygu iaith a llythrennedd.
Choosing Childcare

Cam mawr…

Mae dewis gofal plant yn gam mawr i chi a'ch teulu ac mae'n gallu bod yn broses sy'n danto. Wrth ystyried pa fath o ofal plant sy'n addas, bydd yn rhaid i chi, yn gyntaf, feddwl a ydych chi angen:

  • gofal plant llawn amser neu ran amser,
  • gofal plant gydol y flwyddyn, allan o oriau ysgol yn unig, neu ddim ond yn achlysurol
  • gofal plant yn agos at eich cartref neu'n agos at eich gwaith
  • yn y cartref neu mewn lleoliad

Canllaw i ddod o hyd i'r gofal plant gorau i chi, eich plentyn a'ch teulu yng Nghymru: 

Dewis Gofal Plant

Mae nifer o wahanol fathau o ofal plant ar gael i'ch plentyn. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Gofal sesiynol neu grwpiau chwarae – gofal am blant hyd at bedair awr y dydd, fel arfer am hyd at bum diwrnod yr wythnos. Mae rhai grwpiau chwarae lleol ar agor adeg tymor ysgol yn unig ac eraill ar agor gydol y flwyddyn. Yn aml maen nhw'n cynnig gwasanaeth cofleidiol a / neu wasanaeth casglu o'r ysgolion cynradd lleol. Fel arfer, plant o ddwy i bedair mlwydd oed fydd yn defnyddio darpariaeth fel hyn.
  • Meithrinfeydd dydd neu ofal dydd llawn – yn gyffredinol, maen nhw'n gofalu am blant o’u geni ymlaen ac, fe arfer, ar agor o yn gynnar yn y bore tan yn hwyr gyda'r nos, bump i saith diwrnod yr wythnos, gydol y flwyddyn. Mae'r oriau agor yn gallu amrywio. Mae llawer yn cynnig gwasanaeth casglu i ac o ysgolion lleol.
  • Gofal Allan o Ysgol – mae hynny'n gallu bod yn glwb brecwast, clwb ar ôl ysgol neu ofal gwyliau ysgol. Gallai’r clwb fod yn cael ei gynnal yn ysgol eich plentyn, mewn ysgol leol arall neu mewn adeiladau eraill ac yn cael ei ddefnyddio i ymestyn diwrnod ysgol eich plentyn. Mae'r plant yn tueddu i fod o 3 mlwydd oed hyd at 12 mlwydd oed ac efallai y bydd y lleoliad yn cynnig gwasanaeth casglu.
  • Gofalwr – mae gofalwr cofrestredig yn berson hunan gyflogedig sy'n darparu gofal a chyfleoedd dysgu ar gyfer un neu fwy o blant gydol y flwyddyn, yn eu cartref eu hunain. Gall oedran y plentyn fod o enedigaeth ymlaen ac mae rhai'n gweithredu gyda chymorth cymhorthydd. Mae'r oriau'n gallu amrywio gan gynnwys boreau cynnar hyd at yn hwyr gyda'r nosau a hyd yn oed ar benwythnosau.
  • Crèche – mae crèche yn darparu gofal plant am gyfnodau byr yn bennaf ar gyfer rhieni / gofalwyr plant ifanc sy'n mynychu cyrsiau addysg neu fathau eraill o hyfforddiant. Maen nhw hefyd yn rhoi cyfle i rieni / gofalwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol neu hamdden. Gellir cynnal crèche mewn llawer o wahanol fannau e.e. canolfannau addysg, canolfannau siopa neu ganolfannau hamdden. Mae'r oriau agor yn gallu bod yn hyblyg i gyfarfod â'r anghenion cyfnewidiol rheini / gofalwyr.
  • Nanis – yn darparu gofal plant ar gyfer un neu ragor o blant yng nghartref y rheini. Weithiau maen nhw'n byw gyda'r teulu ac yn gallu bod yn llawn amser, rhan amser neu ar gyfer oriau ar ôl ysgol.
  • Gofal cofleidiol –  mae hyn yn wasanaeth y mae rhai darparwyr gofal plant gan gynnwys grwpiau chwarae, meithrinfeydd dydd a gofalwyr yn ei ddarparu y tu allan i oriau arferol ysgol neu feithrinfa, i ymestyn diwrnod y plentyn mewn addysg a gofal plant. Enghraifft nodweddiadol yw grŵp chwarae yn darparu sesiynau amser cinio ac yn y prynhawn ar gyfer plant sy'n mynychu ysgol feithrin yn ystod y bore. Yn aml mae'r math hwn o ofal yn cynnwys casglu o ysgolion lleol ac fel arfer mae ar gyfer plant tair oed a hŷn.

Mae ein hadnodd Chwilio am Ofal Plant yn gyfeirlyfr o aelodau Blynyddoedd Cynnar Cymru. Nodwch eich côd post i ganfod gofal plant o fewn ffiniau eich awdurdod lleol chi

Before you decide

Pwyntiau i'w hystyried

Efallai y bydd yna nifer o bethau y byddwch eisiau eu gwneud cyn dewis darparydd gofal plant ar gyfer eich plentyn:

  • Ymweld â'r lleoliad o flaen llaw er mwyn cael teimlad gwirioneddol o'r ansawdd gofal plant y maen ei gynnig. Gofyn llawer o gwestiynau a gwneud yn siŵr fod popeth yn lân a diogel a bod y staff yn groesawgar, yn gyfeillgar ac yn broffesiynol a bod y plant sydd yno yn edrych yn hapus ac yn fodlon.
     
  • Os yw'r ddarpariaeth yn darparu bwyd, edrychwch ar ei fwydlenni a'i raddfa hylendid bwyd, dylai'r rhain fod yn cael eu harddangos yn y lleoliad. Os oes gan eich plentyn alergedd neu ofynion diet arbennig, holwch sut y bydd y staff yn arlwyo ar gyfer eich plentyn.
     
  • Mae'n rhaid i unrhyw leoliad sy'n rhedeg am fwy na 2 awr y dydd (ar wahân i nanis) gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW). Mae adroddiadau archwilio diweddaraf Arolygiaeth Gofal Cymru ar ddarparwyr gofal plant yn rhoi syniad cyffredinol da o'r gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu. Mae'r adroddiadau i’w gweld trwy'r ddolen ganlynol Cyfeiriadur gwasanaethau gofal. Does dim rhaid i Nanis gofrestru gyda'r Arolygiaeth ond maen nhw'n gallu ymgeisio i fod yn rhan o gynllun gwirfoddol i gymeradwyo gofal plant yn y cartref.
     
  • Edrychwch yn fanwl ar wefan y darparydd gofal plant, presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol ac ar fforymau ar lein i weld beth mae pobl yn ei ddweud amdano.
     
  • Holwch a yw'r darparydd wedi cymryd rhan mewn unrhyw gynlluniau safonau ansawdd neu wobrwyo megis Ansawdd i Bawb Blynyddoedd Cynnar Cymru.
     
  • Gwnewch yn siŵr beth mae'r ffioedd yn ei gynnwys, y trefniadau gwyliau ac a oes unrhyw gymorth ar gael ar gyfer talu ffioedd. Cofiwch, bob amser, ddarllen telerau ac amodau unrhyw gontract rhieni.
Dolenni Defnyddiol

Cysylltwch â ni

 

Defnyddiwch y ffurflen isod i anfon eich ymholiadau a'ch adborth atom ni. *Mae angen gwybodaeth

Ein Swyddfeydd Rhanbarthol

Ble bynnag yr ydych, mae Blynyddoedd Cynnar Cymru’n ceisio bod â swyddfa yn agos atoch chi. Os ydych chi angen ein cefnogaeth, rhowch alwad i ni a gallwn drafod eich ymholiad neu drefnu i un o’n staff cefnogi gyfarfod â chi.

Ein horiau swyddfa yw Dydd Llun – Dydd Gwener (9am – 5pm)