Drwy ein gwaith, mae Blynyddoedd Cynnar Cymru yn annog ein haelodau i drafod gwasanaethau blynyddoedd cynnar, yn cyflwyno'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y newidiadau mewn gofynion cyfreithiol ac ynghylch cynaliadwyedd eu busnesau, yn darparu cefnogaeth benodol un i un a newyddion ynghylch y sector blynyddoedd cynnar, yn cyfeirio'r ffordd at gymwysterau a chyfleoedd hyfforddi, yn gwella ansawdd trwy gefnogaeth ddynodedig ar gyfer y Cyfnod Sylfaen ar gyfer darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn hyrwyddo ein cynllun sicrwydd ansawdd Ansawdd i Bawb a thrwy ddatblygu cyhoeddiadau ac adnoddau cefnogi.
Rydym yn sylweddoli fod llawer o ddarparwyr blynyddoedd cynnar yn gweithredu mewn llawer o wahanol amgylcheddau a allai fod yn heriol; megis mewn cymunedau gwledig ac ardaloedd difreintiedig a'u bod yn dibynnu ar gymysgedd o gyllid e.e. Dechrau'n Deg, Hawliad Cynnar ar gyfer plant 3 a 4 mlwydd oed yn ogystal â ffioedd oddi wrth rieni a, ble bo'n berthnasol, y Cynnig Gofal Plant. Gallai'r ffactorau hyn, yn ogystal â mentrau lleol a chenedlaethol, fod yn fygythiad ac yn her i gynaliadwyedd. Ein nod ni yw hysbysu a chefnogi a dangos y ffordd er mwyn datrys problemau a sicrhau cynhwysedd.