Polisi Preifatrwydd

Mae'r polisi preifatrwydd hwn yn ymwneud â data personol a gasglwyd gan Blynyddoedd Cynnar Cymru. Mae'n disgrifio sut rydym yn casglu, defnyddio a gofalu am wybodaeth y mae aelodau a rhandaliadau yn ei rhoi i ni a beth yw eich hawliau.

Mae Blynyddoedd Cynnar Cymru yn elusen gofrestredig (rhif 1056381) a chwmni cyfyngedig drwy warant (rhif 3164233).

Ein swyddfa gofrestredig yw Uned 1 Iard Y Cowper, Ffordd Curran, Caerdydd, CF10 5NB

Rydym yn casglu data oddi wrth unigolion ar ffurflenni aelodaeth, E-byst, llythyrau, galwadau ffôn, ymweliad/logiau cyswllt, drwy ein siop ar-lein, ymatebion arolygu, data sy'n ofynnol ar gyfer Anghenion Ychwanegol a Chynlluniau Llefydd â Chymorth.

  • Er mwyn cynnal cofnodion aelodaeth a'u cadw ar gronfa ddata lle mae modd mynd atynt a'u rhannu â gweithwyr Blynyddoedd Cynnar Cymru.
  • I gyfathrebu ag aelodau i'ch diweddaru ar fudd-daliadau aelodaeth, anfon cylchgrawn smalltalk atoch, diweddariadau'r sector, newyddion a gwybodaeth gan sefydliadau eraill.
  • I gyfathrebu â chi ynglŷn â chyfleoedd i fynychu neu gymryd rhan mewn ymgynghoriadau, digwyddiadau a hyfforddiant.
  • Dadansoddi a defnyddio yn adroddiadau a dadansoddiadau mewnol Blynyddoedd Cynnar Cymru.
  • Rydym yn defnyddio manylion bancio aelodau i brosesu taliadau rydych chi wedi'u gwneud i ni ac i anfon derbynneb atoch am daliadau a rhoddion o'r fath.
  • Byddwn ni ond yn prosesu eich data personol i anfon marchnata uniongyrchol atoch os oes gennym eich caniatâd wedi'i lofnodi.
  • Byddwn wastad yn gofyn am eich caniatâd cyn rhannu gwybodaeth a roddwyd i ni mewn cyfarfodydd, yn ystod galwadau neu ymweliadau ac mewn e-byst.
  • Ni fyddwn yn gwerthu, dosbarthu na phrydlesu eich gwybodaeth bersonol i drydydd parti oni bai bod gennym eich caniatâd neu os yw'n ofynnol yn ôl y gyfraith i wneud hynny.
  • Efallai y byddwn yn datgelu eich data i'n darparwyr gwasanaethau sy'n cyfleu gwasanaethau i ni neu chi ar ein rhan (y mae pob un ohonynt yn cael eu gorfodi'n gytundebol i weithredu ar ein cyfarwyddiadau yn unig ac yn unol â deddfau cymwys, gan gynnwys GDPR).
  • Efallai y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i anfon gwybodaeth hyrwyddo atoch am drydydd parti ein bod yn credu bydd o ddiddordeb i chi os byddwch yn rhoi eich caniatâd wedi'i lofnodi i ni i hyn ddigwydd.
  • Efallai y byddwn yn rhannu eich data a manylion am eich gwasanaeth gyda chyllidwyr e.e. awdurdodau lleol neu Lywodraeth Cymru, ond byddwn yn ceisio eich caniatâd ysgrifenedig i wneud hynny o flaen llaw
  • Byddwn bob amser yn gofyn i chi am eich caniatâd yn ysgrifenedig cyn rhannu unrhyw elfen o'ch gwybodaeth bersonol

Cwcis

Mae cwcis, sydd hefyd yn cael eu hadnabod fel porwyr neu gwcis tracio, yn ffeiliau testun bach sy'n cael eu hychwanegu ar eich cyfrifiadur pan fyddwch yn ymweld â gwefan. Maent yn helpu gwefannau i gyflawni rhai swyddogaethau e.e. I wybod pwy ydych chi os ydych chi'n mewngofnodi i ran gyfyngedig o wefan, ar gyfer certiau siopa, ac am ddibenion tracio.

Mae Blynyddoedd Cynnar Cymru'n defnyddio'r cwcis canlynol:

Google analytics. Rydym yn defnyddio cwcis Google analytics ar y wefan am ddibenion tracio. Mae'r cwcis yn ein galluogi i ddeall traffig cyffredinol i'n gwefan er enghraifft nifer yr ymwelwyr a hyd amser ar y wefan. Mae'r broses hon yn casglu data, ond ar ffurf ddienw, i'n helpu i wneud gwelliannau, datblygu'r wefan a gwella profiad y defnyddiwr.

Dewisiadau preifatrwydd. Rydym yn defnyddio cwci tracio, sy'n cael ei ychwanegu ar eich cyfrifiadur, i gofio'ch dewisiadau cwcis h.y. os ydych wedi caniatáu neu wahardd.

Cofrestrwch am ddigwyddiadau. Mae gallu i chi gofrestru ar gyfer digwyddiadau ar y wefan. Os ydych chi'n gwneud hynny mae'r wybodaeth hon yn mynd yn uniongyrchol i'n cronfa ddata. Er mwyn cofrestru mae ein cronfa ddata yn ychwanegu cwci hanfodol (gweinydd adwaith) i'ch cyfrifiadur.

Rheoli Cwcis

Os hoffech optio i mewn neu optio allan o ddefnyddio cwcis, yna dylech allu gwneud hynny gan ddefnyddio'ch porwr. Gallwch adolygu eich gosodiadau cwcis ar unrhyw bryd.

Sylwch na allwch optio allan o'r defnydd o gwcis sy'n angenrheidiol ar gyfer nodweddion ein gwefan neu ein gwasanaethau i ymwelwyr.

Dolenni i wefannau eraill

Gall ein gwefan gynnwys dolenni i'ch galluogi i ymweld â gwefannau eraill sydd o ddiddordeb yn hawdd. Fodd bynnag, ar ôl i chi ddefnyddio'r dolenni hyn i adael ein gwefan, dylech nodi nad oes gennym unrhyw reolaeth dros y wefan arall. Felly, ni allwn fod yn gyfrifol am ddiogelu a phreifatrwydd unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei darparu wrth ymweld â gwefannau o'r fath ac nid yw wefannau o'r fath yn cael eu llywodraethu gan y datganiad preifatrwydd hwn. Dylech fod yn ofalus ac edrych ar y datganiad preifatrwydd sy'n berthnasol i'r wefan dan sylw.

Mae gennych hawl i:

  • Cael mynediad at y data personol daliwn arnoch
  • Unioni/cywiro'r data hwn
  • Gofyn i ni ddileu'r data sydd gennym
  • Gofyn i ni gyfyngu sut mae eich data'n cael ei ddefnyddio h.y. i roi'r gorau i'w brosesu ond ddim ei ddileu, er enghraifft os ydych chi am sefydlu ei gywirdeb cyn gwneud unrhyw brosesu pellach
  • Cael y data a daliwn mewn fformat darllenadwy
  • Gwrthwynebu bod eich data yn cael ei ddefnyddio ar gyfer marchnata uniongyrchol a/neu gael ei brosesu ar gyfer adroddiadau ac ystadegau
  • Gwrthwynebu prosesu eich data personol lle rydym yn dibynnu ar fuddiant cyfreithlon (neu drydydd parti) a cheir rhywbeth am eich sefyllfa benodol chi sy'n gwneud i chi eisiau gwrthwynebu ar sail benodol hon
  • Ddim cael eich proffilio neu fod yn destun penderfyniad yn seiliedig ar brosesu awtomataidd
  • Gofyn i drosglwyddo eich data i barti arall.
  • Mae gennych hawl i dynnu eich caniatâd i ddefnyddio eich data ar unrhyw adeg trwy ysgrifennu at ein prif swyddfa: Blynyddoedd Cynnar Cymru, Uned 1 Iard Y Cowper, Ffordd Curran, Caerdydd, CF10 5BN neu anfon e-bost atom ar [email protected]   

Os ydych yn credu bod unrhyw wybodaeth yr ydym yn cadw arnoch yn anghywir neu'n anghyflawn, ysgrifennwch neu anfonwch e-bost atom cyn gynted â phosib, gan ddefnyddio'r cyfeiriad uchod. Byddwn yn cywiro unrhyw wybodaeth a geir i fod yn anghywir yn brydlon.

Fel arfer, ni fydd yn rhaid i chi dalu ffi er mwyn cael mynediad at eich gwybodaeth bersonol (neu arfer unrhyw un o'r hawliau eraill a nodir uchod). Fodd bynnag, gallwn godi ffi resymol os yw'ch cais am fynediad yn amlwg yn ddi-sail neu'n ormodol. Fel arall, gallwn wrthod cydymffurfio â'r cais mewn amgylchiadau o'r fath.

Efallai y bydd eich data'n cael ei storio'n electronig (ar gyfrifiaduron, gliniaduron, iPad, neu ffonau symudol) neu mewn copi caled, mewn storfa ddiogel a mynediad dim ond i staff Blynyddoedd Cynnar Cymru ddefnyddio i gysylltu â chi yn ystod eu gwaith.

Mae gweithwyr Blynyddoedd Cynnar Cymru yn derbyn hyfforddiant a gwybodaeth am bob agwedd o brosesu a diogelu data fel sy'n briodol i'w rôl.

Mae Blynyddoedd Cynnar Cymru wedi penodi'r Prif Swyddog Gweithredol i fod y rheolwr diogelu data a gellir cysylltu ag ef ar [email protected] neu ar 029 2045 1242, neu drwy ysgrifennu at y Prif Swyddog Gweithredol, Uned 1 Iard Y Cowper, Ffordd Curran, Caerdydd, CF10 5BN.

Bydd holl staff Blynyddoedd Cynnar Cymru yn cael anwythiad mewn gweithdrefnau prosesu data gan gynnwys adrodd unrhyw doriadau i'r rheolwr data Blynyddoedd Cynnar Cymru, a fydd yn adrodd i'r Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) dan ofynion GDPR.

Os caiff y polisi hwn ei ddiweddaru neu ei newid byddwn yn hysbysu pob aelod a bydd y polisi ar gael ar ein gwefan: www.earlyyears.wales.

Os oes gennych bryderon neu gŵyn am ddefnyddio eich data personol, gallwch gysylltu â'n rheolwr diogelu data

Neu Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth https://cy.ico.org.uk/make-a-complaint/   

Mehefin 2019

Swyddfa Gofrestredig Blynyddoedd Cynnar Cymru Uned 1 Iard y Cowper, Ffordd Curran, Caerdydd, CF10 5NB

Ff: 029 2045 1242 E: [email protected]

Elusen gofrestredig 1056381. Cwmni cyfyngedig trwy warant 3164233

Cysylltwch â ni

 

Defnyddiwch y ffurflen isod i anfon eich ymholiadau a'ch adborth atom ni. *Mae angen gwybodaeth

Ein Swyddfeydd Rhanbarthol

Ble bynnag yr ydych, mae Blynyddoedd Cynnar Cymru’n ceisio bod â swyddfa yn agos atoch chi. Os ydych chi angen ein cefnogaeth, rhowch alwad i ni a gallwn drafod eich ymholiad neu drefnu i un o’n staff cefnogi gyfarfod â chi.

Ein horiau swyddfa yw Dydd Llun – Dydd Gwener (9am – 5pm)