Dysgu Sylfaen

Mae ein Swyddog Addysg Blynyddoedd Cynnar yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru i nodi, datblygu a rhannu ymarfer effeithiol ledled Cymru.

Support to deliver

Mae ein Swyddog Addysg Blynyddoedd Cynnar yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru i nodi, datblygu a rhannu ymarfer effeithiol ledled Cymru.

Mae Blynyddoedd Cynnar Cymru hefyd yn cefnogi datblygiad Cwricwlwm i Gymru 2022 ac ochr yn ochr ag ymarferwyr, rydym wedi cefnogi'r cyd-greu ‘Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir’.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch: Kelcie Stacey, [email protected] neu 07983 468552.

Sut ni'n gwneud hyn
  • Gweithio gyda lleoliadau unigol ar gais
  • Gweithio ochr yn ochr ag ymarferwyr ar gyd-adeiladu'r Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir ac asesiadau
  • Cyflwyno digwyddiadau a gweithdai priodol
  • Creu adnoddau e.e. ein nodwedd Dysgu Sylfaen: Pwynt Siarad ym mhob rhifyn o smalltalk
  • Rhannu ymarfer da a datblygu sgiliau drwy e-bost, ar-lein neu bob chwarter yn gylchgrawn Smalltalk

Mae'r cwricwlwm lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir wedi'i gynllunio ar gyfer y sector gan y sector ac mae'n ceisio rhoi ymdeimlad o berthyn a balchder i blant wrth ddathlu diwylliant amrywiol Cymru.

Fel y gwyddom, mae darpariaeth addysg gynnar o ansawdd uchel yn hanfodol i ddatblygiad plant ac mae'r cwricwlwm yn anelu at ddarparu sylfeini cadarn i gefnogi profiadau cadarnhaol plant ar gyfer dysgu gydol oes. Mae'n mynd i'r afael â 'sut' a 'pham'  o ddylunio cwricwlwm i gefnogi plant i ddatblygu fel:

  • Dysgwyr uchelgeisiol, galluog
  • Cyfranwyr mentrus, creadigol
  • Dinasyddion egwyddorol, gwybodus
  • Unigolion iach, hyderus

Mae datblygiad cyfannol plant ar flaen y gad yn ymarfer addysgeg y cwricwlwm ac mae'n cysylltu'n agos ag egwyddorion datblygiad plant, yn ogystal â phedwar diben y cwricwlwm a datganiad o'r hyn sy'n bwysig i'r chwe maes dysgu a phrofiad.

Dylid defnyddio'r cwricwlwm i gefnogi cynllunio i sicrhau'r defnydd gorau o amgylchedd ac adnoddau eich lleoliad wrth ddefnyddio cymorth gan bartneriaid perthnasol i ddatblygu amgylcheddau dysgu priodol a sicrhau ein bod yn darparu cwricwlwm sy'n briodol i'w ddatblygu drwy ddealltwriaeth o: Oedolion sy'n galluogi , profiadau sy'n ennyn diddordeb, amgylcheddau effeithiol ac addysgeg wrth bwysleisio chwarae fel hawl sylfaenol i bob plentyn.

Mae'r cwricwlwm hwn yn sicrhau bod elfennau gorfodol Cwricwlwm i Gymru wedi'u hymgorffori o fewn fframwaith addysgeg briodol sy'n canolbwyntio ar anghenion y plentyn sy'n datblygu trwy bum llwybr datblygu:

  • Perthyn
  • Cyfathrebu
  • Archwilio
  • Datblygiad corfforol
  • Lles
Celebrating the Curriculum

Dyma adnodd newydd, datblygwyd ar gyfer Cwlwm gan Mudiad Methrin, sy'n cyflwyno prif elfennau'r cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir.

Cyfres o sgyrsiau gydag ymarferwyr sy'n rhannu eu profiadau o roi'r cwricwlwm ar waith. Mae'r adnodd yn cael ei rannu'n chwe rhan – fformat hwylus ar gyfer trafod un rhan ar y tro, naill ai mewn cyfarfod tîm neu'n eich amser eich hun.

I dderbyn copi o'r adnodd, gwnewch cais ar wefan y Mudiad Meithrin isod:

foundation-phase-profile

Mae arsylwi yn chwarae rhan annatod yn eich ymarfer a dylai fod yn gatalydd ar gyfer cynllunio. Gellir cynnal asesiadau trwy ddadansoddi arsylwadau manwl. Mae asesu yn chwarae rhan sylfaenol wrth alluogi pob plentyn unigol i wneud cynnydd ar gyflymder priodol wrth sicrhau eu bod yn cael eu herio a'u cefnogi ar hyd y ffordd.

Trefniadau asesu ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir

Mae'r trefniadau asesu hyn wedi cael eu cyd-greu â phartneriaid allweddol i gefnogi ymarferwyr mewn lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir sydd wedi mabwysiadu'r cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir.

Mae'r trefniadau'n ystyried anghenion pob dysgwr ac yn cydnabod y bydd eu hunaniaeth, iaith, gallu, cefndir a phrofiad dysgu blaenorol, ynghyd â'r cymorth sydd ei angen arnyn nhw, yn amrywio yn ôl eu hamgylchiadau penodol.

Bydd y trefniadau hyn yn cefnogi lleoliadau i:

  • ddeall cynnydd mewn dysgu plant
  • cymhwyso'r egwyddorion cynnydd yn ymarferol
  • datblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd ar draws y lleoliad
  • defnyddio arsylwadau i lywio'r ddarpariaeth sy'n cefnogi plant i wneud cynnydd
  • gwybod am drefniadau asesiadau cychwynnol a pharhaus a'u gweithredu
Y Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir:
  • Yn seiliedig ar bedwar diben Cwricwlwm i Gymru.
  • Yn cwmpasu'r chwe maes dysgu a phrofiad
  • Yn cwmpasu'r 27 datganiad o'r hyn sy'n bwysig
  • Cynnwys elfennau'r cwricwlwm gorfodol
  • Yn cwmpasu'r sgiliau trawsgwricwlaidd gorfodol
  • Adlewyrchu egwyddorion cynnydd

Gellir defnyddio'r Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir yn ei gyfanrwydd ac nid oes angen ei ddefnyddio yn ogystal â'r Cwricwlwm i Gymru.

O enedigaeth, mae plant yn ail adrodd eu  gweithredoedd a'u hymddygiad (sgema). Er enghraifft, mae gafael, codi, sugno, rhoi yn y geg, chwifio a dyrnu i gyd yn sgemâu cynnar.

Beth yw Sgema?

Mae gan blant ysfa naturiol i wneud yr un pethau drosodd a throsodd, taflu pethau, cuddio pethau dros y tŷ mewn bagiau neu wagio'r holl deganau o'r bocs. Yr ymddygiad ail adroddus hwn sy'n helpu plant i ddatblygu a dyfnhau eu dealltwriaeth o gydsyniadau.

Pam eu bod yn bwysig?

Mae sgemâu'n cysylltu'n uniongyrchol â sut y mae'r ymennydd ifanc yn datblygu ac yn tyfu. Wrth i blant ail adrodd eu gweithredoedd maen nhw'n gwneud cysylltiadau pwysig yn eu hymennydd, sy'n eu helpu i addasu neu i newid eu ffyrdd. Mae hynny'n elfen hanfodol bwysig yn natblygiad a dysgu plant ifanc.

Mae Rhieni, Ymarferwyr a Gofalwyr

Mae Rhieni, Ymarferwyr, a gofalwyr yn gallu cefnogi plant trwy ddeall sgemâu a thrwy annog plant i chwarae a dysgu mewn ffordd sy'n cysylltu â diddordebau sgematig y plentyn.

Arsylwi sgemâu

Mae gwybod am sgemâu'n gallu eich helpu i ddisgrifio'n fanylach y ffyrdd y mae plentyn yn mynd ati i ddysgu. Gallwch ddefnyddio'r wybodaeth honno i'ch helpu i ddeall ymddygiad plentyn.

Gadewch i ni fynd i weld sgema...

Os hoffech chi ddysgu mwy am sut y gallwch chi adnabod sgema plentyn a beth yw enw'r sgemâu amrywiol. Gall aelodau Blynyddoedd Cynnar Cymru lawrlwytho copi AM DDIM.

Yn syml, mewngofnodwch i'ch cyfrif aelodau trwy: https://www.earlyyears.wales/cy/shop. Mae aelodaeth Blynyddoedd Cynnar Cymru AM DDIM ar hyn o bryd! Edrychwch ar ein tudalen aelodaeth am restr lawn o fuddion aelodaeth.

Mae Estyn yn arolygu ansawdd a safonau mewn darparwyr addysg a hyfforddiant yng Nghymru gan ddefnyddio'r Fframwaith Arolygu Cyffredin. Mae yna un fframwaith ar gyfer pob ysgol, coleg arbenigol annibynnol, unedau cyfeirio disgyblion a darparwyr dysgu seiliedig ar waith a fframwaith arall ar gyfer pob sector arall (meithrinfeydd nas cynhelir, addysg bellach, addysg gychwynnol athrawon a hyfforddiant, gwasanaethau addysg llywodraeth leol a Chymraeg i oedolion).

Bydd Estyn yn arolygu pob darparwr o leiaf unwaith yn ystod y cyfnod o saith mlynedd a ddechreuodd ar 1 Medi 2016. Mae'r cyfnod rhybudd am arolygiad yn wahanol i bob sector. Mae lleoliadau nas cynhelir yn derbyn cyfnod rhybudd o 10 diwrnod.

https://www.estyn.llyw.cymru/

Girl smiling

Mae'n gyfnod cyffrous iawn yn hanes addysg yng Nghymru. Hoffech chi wybod mwy am gefndir a chyd-destun y diwygiad? Ydych chi'n awyddus i arfogi eich hun â'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth gyfredol o egwyddorion sylfaenol y cwricwlwm newydd? Ydych chi am fod ar flaen y gad o ran darparu addysg ar yr adeg esblygu hon?

Wedi'i ddatblygu gan Gwlwm, mae'r adnodd hyfforddi hwn yn cynnig cyflwyniad clir ac ysgafn i fethodoleg a datblygiad Cwricwlwm i Gymru 2022.

Mewngofnodwch i'ch cyfrif ac ewch i'n tudalen siop i gael mynediad. Ddim yn aelod? Mae aelodaeth Blynyddoedd Cynnar Cymru yn RHAD AC AM DDIM ar hyn o bryd! Edrychwch ar ein tudalen aelodaeth am restr lawn o fuddion aelodaeth.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae Blynyddoedd Cynnar Cymru wedi bod yn cymryd rhan mewn trafodaethau datblygiadol o fewn grwpiau rhanddeiliaid ehangach, a Llywodraeth Cymru, diweddaru ac adnewyddu dull Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar yng Nghymru (ECEC).  Yn unol â datblygiadau polisi eraill, yng Nghymru gelwir y model hwn o weithio gyda phlant 0-5 oed Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar yng Nghymru (a elwir yn gyffredin fel ECPLC).

Bydd y dull Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar (ECPLC) yn cefnogi ymarferwyr i ystyried eu hymarfer a nod Fframwaith Ansawdd Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar (ECPLC) yw cefnogi ymarferwyr, arweinwyr, ysgolion, Awdurdodau Lleol a rhieni gyda dealltwriaeth gyffredin o'r gwahanol ofynion sydd eu hangen i ddarparu gofal plant, dysgu a chwarae o ansawdd uchel i blant yn y blynyddoedd cynnar.

Ddydd Iau 28 Medi 18:00-19:00, cynhaliodd Blynyddoedd Cynnar Cymru sgwrs broffesiynol i amlinellu mwy am ddulliau Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar (ECPLC), sut mae'r fframwaith yn cyd-fynd â fframweithiau cwricwlaidd a phroffesiynol eraill, a'r cyfleoedd sydd ar gael i aelodau i helpu Llywodraeth Cymru i lywio cyfeiriad gweithredu'r polisi hwn yn y dyfodol.

Adnoddau Medi 2023

Cysylltwch â ni

 

Defnyddiwch y ffurflen isod i anfon eich ymholiadau a'ch adborth atom ni. *Mae angen gwybodaeth

Ein Swyddfeydd Rhanbarthol

Ble bynnag yr ydych, mae Blynyddoedd Cynnar Cymru’n ceisio bod â swyddfa yn agos atoch chi. Os ydych chi angen ein cefnogaeth, rhowch alwad i ni a gallwn drafod eich ymholiad neu drefnu i un o’n staff cefnogi gyfarfod â chi.

Ein horiau swyddfa yw Dydd Llun – Dydd Gwener (9am – 5pm)