Cynllunydd Hyfforddiant

Nod y dudalen hon yw cynnig cyfleoedd i ddysgu a datblygu sgiliau sy'n cefnogi arfer dda yn y blynyddoedd cynnar

Rydym yn cynnig hyfforddiant wyneb yn wyneb a rhithwir trwy ein cynllunydd hyfforddiant isod a gallwch hefyd ddod o hyd i fwy o gyfleoedd i ddysgu yn ein hadran dysgu rhithwir.

Red pin in calendar
  • Cyfrifoldeb y sawl sy'n mynychu yw darparu cyfeiriad e-bost, bod yn ymwybodol o'r rhesymau dros wneud hynny a chytuno i ddata gael ei ddefnyddio. Gan y bydd pob gohebiaeth yn cael ei anfon drwy ebost, sicrhewch fod y manylion yn cael eu cadw'n gyfredol os gwelwch yn dda.
     
  • Os oes angen i chi ganslo archeb, rhaid gwneud hynny o leiaf 24 awr cyn dyddiad ac amser dechrau'r cwrs. Gellir gwneud hyn drwy anfon e-bost at [email protected]. Mae hyn er mwyn sicrhau ein bod yn gallu cynnig lle i unrhyw un ar y rhestr aros ac i'r hyfforddwyr gael y rhestr bresenoldeb ddiweddaraf er mwyn paratoi ar gyfer y sesiwn.

Plis darllenwch ein telerau ac amodau yn llawn cyn archebu lle ar unrhyw ddigwyddiad.

Bydd y sesiwn fer 30 munud hon yn rhoi gwybodaeth i fynychwyr am ein gweithgareddau arfaethedig, ein cynhyrchion a'n gwasanaethau wedi'u diweddaru, a newyddion eraill gan Blynyddoedd Cynnar Cymru. 

Dod â phaned a chlywed am ein cynlluniau. Byddwn yn parhau i rannu ein cynigion aelodaeth a'n buddion mewn amrywiaeth o ffyrdd i'r holl aelodau.

 
11eg Medi8:00am - 8:30amArchebwch ar-lein

Mae'r rhain yn gyfleoedd i arweinwyr a rheolwyr ein lleoliadau cwrdd ar-lein a rhannu sgyrsiau sy'n bwysig i'r sector ac i redeg ac arwain staff mewn lleoliadau ledled Cymru. Rydym yn hwyluso'r cyfleoedd hyn i rwydweithio a rhannu sgyrsiau. 

Ein bwriad yw gwneud y rhain yn gyfarfodydd chi -   gyda'ch archeb fe'ch gwahoddir i awgrymu pwnc. Os oes sgwrs rydych chi'n credu y dylai arweinwyr a rheolwyr ei rhannu, rydym yn hapus i gael ein tywys gennych chi. 

Byddwn yn anfon e-bost at yr holl arweinwyr a rheolwyr a archebwyd ar y rhwydwaith gyda'r agenda a'r pynciau ymlaen llaw. Yn ogystal â phynciau heriol a lle i godi pryderon, byddem yn falch iawn o rannu syniadau ar gyfer ymarfer, dathlu llwyddiannau ac arloesedd ledled Cymru a gwahodd unrhyw arweinydd neu reolwr a hoffai rannu syniadau.

 
25ain Medi 9:00am - 10:00am Archebwch ar-lein

Mae'r rhain yn gyfleoedd i cwrdd ar-lein a rhannu sgyrsiau sy'n bwysig i'r sector. 

 
7fed Hydref 18:45 - 19:45Archebwch ar-lein
Mae mwg, gliniadur a phapur yn eistedd ar ddesg. Testun yn darllen: Cinio a Dysgu
 

Gwiriwch yn ôl yn fuan

Dal i fyny

DolenGwybodaeth

Cwricwlwm i Gymru 2022 adnoddau hyfforddi


Datblygwyd gan Cwlwm, mae’r cwrs yma yn cynnig cyflwyniad clir a hwyliog i fethodoleg a datblygiad Cwricwlwm i Gymru 2022.

Aelodau yn unigearlyyears.wales
Aelodau mewngofnodwch i gael mynediad
Gwybodaeth a fideos i gefnogi’r daith.


Mae’r daith ddysgu proffesiynol wedi’i datblygu i helpu i arwain ysgolion trwy’r agweddau strwythurol a dysgu proffesiynol er mwyn paratoi ar gyfer Cwricwlwm i Gymru. Mae’n eich helpu i ddod o hyd i’ch ffordd trwy’r gwahanol fodelau ar gyfer dysgu proffesiynol, a chynllunio taith eich ysgol eich hun.
 

Allanolhwb.gov.wales

 

Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliol

 


Mae DARPL yn dwyn ynghyd dîm amrywiol o ddarparwyr sydd â phrofiad byw a phroffesiynol drwy hwb dysgu ac adnoddau proffesiynol sydd â safbwynt Cymreig o ran codi ymwybyddiaeth amlddisgyblaethol o hiliaeth, wrth i ni weithio gyda'n gilydd yn y Cwricwlwm Newydd i Gymru.

Dysgu proffesiynol i'r rhai sy'n gweithio ym maes addysg i feithrin dealltwriaeth o ymarfer gwrth-hiliol a'i ddatblygu

Allanoldarpl.org

Modiwlau dysgu proffesiynol yn y Cyfnod Sylfaen


Cyfres o fodiwlau a gynlluniwyd i gynorthwyo ymarferwyr y Cyfnod Sylfaen i fyfyrio ar ymarfer a darpariaeth yn y meysydd canlynol: Dysgu yn yr awyr agored; Datblygiad plant; Cyfnodau pontio; Arsylwi; Chwarae a dysgu sy’n seiliedig ar chwarae; Dysgu dilys a phwrpasol. Mae'r gyfres hefyd yn cynnwys llawlyfr Cyflwyniad, y bydd angen ei ddeall cyn ymgymryd â'r dysgu yn y modiwlau, yn ogystal â chanllaw o gwestiynau cyffredin
 
Allanolhwb.gov.wales
Hyfforddiant Prevent
Mae'r adnodd hwn yn cynnwys 4 fideo byr (gan Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales) i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r Dyletswydd Prevent yng Nghymru. Mae’r canllawiau statudol yn cyfeirio at bwysigrwydd hyfforddiant ymwybyddiaeth Prevent i arfogi staff i adnabod plant sydd mewn perygl o gael eu denu i derfysgaeth ac i herio syniadau eithafol.
 
Allanolhwb.gov.wales

Cysylltwch â ni

 

Defnyddiwch y ffurflen isod i anfon eich ymholiadau a'ch adborth atom ni. *Mae angen gwybodaeth

Ein Swyddfeydd Rhanbarthol

Ble bynnag yr ydych, mae Blynyddoedd Cynnar Cymru’n ceisio bod â swyddfa yn agos atoch chi. Os ydych chi angen ein cefnogaeth, rhowch alwad i ni a gallwn drafod eich ymholiad neu drefnu i un o’n staff cefnogi gyfarfod â chi.

Ein horiau swyddfa yw Dydd Llun – Dydd Gwener (9am – 5pm)