Dewch yn aelod heddiw

Yn rhedeg lleoliad, yn gweithio i gael gyrfa gyda gofal plant neu ond gyda diddordeb ym mhopeth ynghylch Blynyddoedd Cynnar, mae gennym ni becyn aelodaeth ar eich cyfer chi.

Building Blocks on a Navy background
Gyda’n gilydd, byddwn yn gweld plant yng Nghymru’n ffynnu


Fel y sefydliad ymbarél arbenigol arweiniol yng Nghymru, credwn y dylai rhieni a gweithwyr proffesiynol sy'n magu ac yn gofalu am blant ifanc fod wrth wraidd llunio polisïau a'u cefnogi i sicrhau bod plant yng Nghymru yn cael y dechrau gorau mewn bywyd.

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi ein haelodau drwy rannu gwybodaeth a darparu arweiniad. Rydym yn cefnogi ein haelodau i ddarparu rhaglenni ymyrraeth gynnar a gwasanaethau teuluol. Rydym yn darparu cefnogaeth o ansawdd uchel i aelodau, gan gynnwys cymorth busnes cyffredinol a phwrpasol, cynllun sicrhau ansawdd mewnol, datblygiad proffesiynol helaeth a rhaglenni dysgu, a chynrychioli llais ein haelodau mewn trafodaethau polisi gyda Llywodraeth Cymru.

Rydym yn cynnig aelodaeth i amrywiaeth eang o ddarparwyr gofal plant ac unigolion yn y blynyddoedd cynnar.

 Cost
Darparwr gofal plant neu Ysgol£80
Safle ychwanegol£45
Gofal Plant yn y Cartref£30
Grŵp Ti a Fi£30
Sylfaenol neu Rhiant£10
Myfyriwr*Am ddim

*angen cyfeiriad e-bost academaidd

GOFRESTRU (Saesneg) heddiw a chael mynediad at amrywiaeth eang o gefnogaeth, hyfforddiant ac adnoddau a ddatblygwyd ar gyfer aelodau yn unig.

Eisoes yn aelod? Bydd yr holl aelodaeth yn dod i ben ar 31 Mawrth 2025. Adnewyddu eich aelodaeth drwy ymweld â'n tudalen siop > www.earlyyears.wales/cy/shop

Bydd yr holl aelodaeth yn dod i ben ar 31 Mawrth 2026.

Nid oes rhaid i leoliadau ddilyn cyfansoddiad Blynyddoedd Cynnar Cymru, ond os ydynt wedi mabwysiadu a chofrestru un yna rhaid iddynt fod yn aelodau gyda Blynyddoedd Cynnar Cymru. Mae methu â chael aelodaeth weithredol yn annilysu'r cyfansoddiad hwn. Nid yw Blynyddoedd Cynnar Cymru yn derbyn unrhyw atebolrwydd am ddiffygion mewn aelodaeth ac am annilysu'r cyfansoddiadau o dan yr amgylchiadau hyn.

Page contents