Dechreuodd y cyfan gyda llythyr…

Ym 1961 ysgrifennodd Belle Tuaey, mam ifanc yn byw yn Llundain gyda'i merch bedair blwydd oed, lythyr at y Guardian.

Memories of the Playgroup

Roedd Belle mor bryderus ynghylch y diffyg darpariaeth meithrin, a oedd yn ganlyniad i embargo gan y llywodraeth ym 1960 nes iddi sefydlu grŵp chwarae ar gyfer ei phlentyn ei hunan a chynnig cyngor a chymorth i unrhyw a oedd yn dymuno gwneud yr un peth.

O'r llythyr hwn y tyfodd y cynnydd enfawr mewn grwpiau chwarae, o un plentyn ym 1961 i tua 390,000 erbyn 1976, a dyna pryd y ganed y Pre-school Playgroups Association (PPA) (Cymdeithas Grwpiau Chwarae Cyn-ysgol) yn Llundain ar 16 Gorffennaf 1962.

Yr adeg hynny. roedd grwpiau chwarae yng Nghymru'n rhan o'r PPA, ond doedd dim strwythur ffurfiol yng Nghymru i glymu'r grwpiau hynny gyda'i gilydd…..

Bron i 60 mlynedd yn ddiweddarach, Blynyddoedd Cynnar Cymru yw'r sefydliad ymbarél mwyaf sy'n cefnogi amrywiaeth o wasanaethau aelodaeth cynhwysfawr i'r sector Blynyddoedd Cynnar yng Nghymru. Ar hyn o bryd rydyn ni’n cynrychioli mwy na 700 o ddarparwyr gofal plant yng Nghymru ac yn cefnogi dros 25,000 o blant a'u teuluoedd.

Yn 2008, cyhoeddodd Blynyddoedd Cynnar Cymru Memories of the Playgroup Movement in Wales; 1961 – 1987 – casgliad o atgofion cyn aelodau Blynyddoedd Cynnar Cymru yn sôn am eu profiadau o'r Mudiad Grwpiau Chwarae yng Nghymru, o'i ddechreuad ym 1961 hyd at ei annibyniaeth o Loegr ym 1987.

Yn anffodus mae Memories of the Playgroup Movement in Wales allan o brint erbyn hyn ond rydyn ni wedi gallu cael hyd i'r ffeil wreiddio ac wedi'i hadfer i chi allu ei llawrlwytho a'i darllen wrth eich pwysau – llawer o ddiolch i Jenks yn Jenks Design yn Aberystwyth am beidio â'i dileu!!

Cliciwch ar y ddelwedd ar y clawr isod i'w llawrlwytho.

Memories of the Playgroup

Cysylltwch â ni

 

Defnyddiwch y ffurflen isod i anfon eich ymholiadau a'ch adborth atom ni. *Mae angen gwybodaeth

Ein Swyddfeydd Rhanbarthol

Ble bynnag yr ydych, mae Blynyddoedd Cynnar Cymru’n ceisio bod â swyddfa yn agos atoch chi. Os ydych chi angen ein cefnogaeth, rhowch alwad i ni a gallwn drafod eich ymholiad neu drefnu i un o’n staff cefnogi gyfarfod â chi.

Ein horiau swyddfa yw Dydd Llun – Dydd Gwener (9am – 5pm)