Ein nod yw cefnogi meysydd datblygu allweddol o dan y categorïau canlynol:
- gwybodaeth – darparu'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch arfer proffesiynol a datblygiadau penodol i sefydliadau
- sgiliau – defnydd amlwg o wybodaeth a'r defnydd o sgiliau yn y gweithle
- ymddygiad – defnydd amlwg o werthoedd priodol, ymddygiad addas a sgiliau perthynas yn y gweithle
- hunanasesu ac arfer myfyriol – adolygu a myfyrio gan ddefnyddio adborth ar weithgareddau dysgu a datblygu
Am arweiniad pellach ar y broses oruchwylio, cyfeiriwch at – Canllaw ar oruchwylio ac arfarnu'n dda

Mae cofnodi eich dysgu yn bwysig oherwydd mae'n sicrhau y gallwch ddangos eich datblygiad proffesiynol parhaus, yn ogystal a dangos sut yr ydych yn parhau i fod yn gymwys yn eich proffesiwn.
Mae'r ffurflen isod wedi'i dylunio i'ch helpu i gadw cofnod o'r cwrs a'r sgiliau a ddatblygwyd pan fyddwch wedi cwblhau unrhyw fath o ddysgu
Lawrlwytho
Atodiad | Maint |
---|---|
![]() | 468.39 KB |
DPP
Darllen Pellach
Dolenni defnyddiol
Chwiliwch y Fframwaith Cymwysterau i ddod o hyd i'r cymwysterau gofynnol neu argymelledig ar gyfer gwahanol rolau swydd ym maes gofal cymdeithasol a gofal plant rheoleiddiedig yng Nghymru
Mae City & Guilds a CBAC yn cydweithio i ddarparu cymwysterau galwedigaethol yng Nghymru.
Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am y rolau amrywiol sydd ar gael ar gyfer gyrfa ym maes gofal plant.