Mae hyfforddiant ar gael i aelodau yn y sector gofal plant a gynhelir a'r sector nas cynhelir, yn ogystal ac i ddarparwyr anghofrestredig mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar a gofal plant ledled Cymru
- Cyfrifoldeb y sawl sy'n archebu hyfforddiant yw cadw at y Cod Ymddygiad. Gall methu â gwneud hynny olygu na fydd yr unigolyn yn cael mynychu cyrsiau yn y dyfodol.
- Gallem fod yn ychwanegu cyrsiau hyfforddi eraill drwy gydol y flwyddyn. Gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar y wefan yn rheolaidd am fanylion a diweddariadau.
- Cyfrifoldeb y sawl sy'n mynychu yw darparu cyfeiriad e-bost, bod yn ymwybodol o'r rhesymau dros wneud hynny a chytuno i ddata gael ei ddefnyddio. Gan y bydd pob gohebiaeth yn cael ei hanfon trwy e-bost, plis sicrhewch fod y manylion yn cael eu cadw'n gyfredol.
- Gellir lawrlwytho gwybodaeth sy'n berthnasol i gyrsiau o'r wefan. Noder na fydd taflenni yn cael eu darparu mewn rhai cyrsiau.
- Mae cost y cwrs yn sicrhau eich lle. Os na allwch ddod i'r cwrs, gallwch ofyn am ad-daliad heb fod yn hwyrach na 72 awr cyn i'r cwrs ddechrau. Rhaid cyflwyno'r cais hwn i [email protected] a chynnwys cyfeirnod y cwrs, eich manylion cyswllt a'ch rheswm dros ganslo. Bydd ceisiadau canslo a dderbynnir ar ôl y cyfnod hwn yn gorfod talu ffi canslo o 50% o gostau'r cwrs. Rydym yn cadw'r hawl i ganslo'ch lle heb ad-daliad i sicrhau y gallwn dalu ein rhwymedigaethau cwrs am unrhyw archeb na chanslwyd 72 awr cyn y cwrs.
- Cyfrifoldeb y sawl sy'n mynychu yw darllen a llwyr ddeall y canllawiau Iechyd a Diogelwch sydd yn yr ystafelloedd hyfforddi.
- Cyfrifoldeb y sawl sy'n mynychu yw hysbysu Blynyddoedd Cynnar Cymru cyn y cwrs os oes angen cymorth ychwanegol arnoch er mwyn cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus.
- Mae angen rhif aelodaeth Blynyddoedd Cynnar Cymru ar gyfer cyrsiau sydd yn agored i aelodau yn unig. Os nad ydych yn aelod, ewch i'n hadran aelodaeth. Gall methu â darparu rhif aelodaeth arwain at ganslo eich archeb.
- Efallai y bydd angen cyfrif ar-lein Blynyddoedd Cynnar Cymru i gwblhau archeb a thaliad. Mae gan bob aelod gyfrif ar-lein, cliciwch yma a mewnbynnwch y cyfeiriad e-bost sy'n gysylltiedig â'ch aelodaeth i greu eich cyfrinair, os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes.
- Ar gyfer pob ymholiad arall, cysylltwch â'r Gweinyddwr Aelodaeth ar [email protected] neu cysylltwch â'n prif swyddfa ar 02920 451 242.
- Cedwir rhestrau aros os yw'r cwrs yn llawn. Bydd Blynyddoedd Cynnar Cymru yn cysylltu â chi os a phan fydd llefydd ar gael.
- Os oes angen talu am gwrs, mae gofyn gwneud hynny wrth archebu eich lle.
- Dylai'r unigolyn sy'n archebu gadw cofnod o unrhyw daliadau.
- Bydd cadarnhad o'r archeb yn cael ei anfon i'r cyfeiriad e-bost a ddarparwyd ar eich proffil; bydd angen i chi gadw hwn fel cofnod. Rhoddir derbynneb ar gais ar gyfer cofnodion ariannol.
- Mae cost y cwrs yn sicrhau eich lle. Os na allwch ddod i'r cwrs, gallwch ofyn am ad-daliad heb fod yn hwyrach na 72 awr cyn i'r cwrs ddechrau. Rhaid cyflwyno'r cais hwn i [email protected] a chynnwys cyfeirnod y cwrs, eich manylion cyswllt a'ch rheswm dros ganslo. Bydd ceisiadau canslo a dderbynnir ar ôl y cyfnod hwn yn gorfod talu ffi canslo o 50% o gostau'r cwrs. Rydym yn cadw'r hawl i ganslo'ch lle heb ad-daliad i sicrhau y gallwn dalu ein rhwymedigaethau cwrs am unrhyw archeb na chanslwyd 72 awr cyn y cwrs.
- Ar gyfer achosion o Covid 19, dim ond ar ôl derbyn hysbysiad swyddogol o ganlyniad cadarnhaol gan wefan Gov.UK y cynnigir ad-daliad
- Os bydd Blynyddoedd Cynnar Cymru yn canslo cwrs am unrhyw reswm, rhoddir ad-daliad.
- Mae Blynyddoedd Cynnar Cymru a'u partneriaid hyfforddi yn cadw'r hawl i wrthod mynediad i gwrs os na dderbyniwyd taliad cyn yr hyfforddiant.
- Nod Blynyddoedd Cynnar Cymru yw darparu hyfforddiant o safon uchel a fydd yn arwain, yn ysbrydoli ac yn cefnogi holl gyfranogwyr y cwrs.
- Ein nod yw creu awyrgylch o frwdfrydedd, cyd-gefnogaeth a pharch rhwng staff, hyfforddwyr a mynychwyr, er mwyn uchafu profiadau a chanlyniadau dysgu’r unigolyn.
- Gofynnwn i chi fod yn ymwybodol o iechyd a diogelwch, trwy fod yn ymwybodol o gyfleusterau a gweithdrefnau brys os ydych yn mynychu hyfforddiant wyneb yn wyneb.
- Gofynnwn am gydweithrediad yr holl gyfranogwyr i gadw at ein Cod Ymddygiad er mwyn sicrhau bod y digwyddiad hyfforddi yn cael ei gynnal yn llwyddiannus ac o fewn amgylchedd diogel. Gall methu â chadw at hyn arwain at waharddiad o gyrsiau hyfforddi yn y dyfodol.
- Plis cwblhewch ein ffurflenni gwerthuso cwrs ar ddiwedd y sesiwn hyfforddi. Rydym yn croesawu unrhyw adborth sydd gennych i'n galluogi i ddatblygu a gwella ein gwasanaeth ymhellach.
- Plis siaradwch â'r hyfforddwr os ydych chi’n teimlo y gallech elwa o gymorth sgiliau hanfodol. Bydd yr hyfforddwr yn trafod yr holl opsiynau cymorth sydd ar gael i chi mewn modd cyfrinachol.