Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar (ECPLC)

Yn 2019, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i weithio tuag at fodel Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar (a elwir yn gyffredin fel ECEC).

Baby wearing bright pink dungarees points to ear while surrounded by wooden toys

Mae'n ddull a gydnabyddir yn rhyngwladol gyda'r nod o gynyddu tegwch rhwng addysg a gofal, creu dealltwriaeth gyffredin o'r plentyn a'i anghenion, a chreu llwybr mwy di-dor i gefnogi datblygiad plentyn.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae Blynyddoedd Cynnar Cymru wedi bod yn cymryd rhan mewn trafodaethau datblygiadol o fewn grwpiau rhanddeiliaid ehangach, a Llywodraeth Cymru, diweddaru ac adnewyddu dull Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar yng Nghymru (ECEC).  Yn unol â datblygiadau polisi eraill, yng Nghymru gelwir y model hwn o weithio gyda phlant 0-5 oed Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar yng Nghymru (a elwir yn gyffredin fel ECPLC).

Bydd y dull Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar (ECPLC) yn cefnogi ymarferwyr i ystyried eu hymarfer a nod Fframwaith Ansawdd Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar (ECPLC) yw cefnogi ymarferwyr, arweinwyr, ysgolion, Awdurdodau Lleol a rhieni gyda dealltwriaeth gyffredin o'r gwahanol ofynion sydd eu hangen i ddarparu gofal plant, dysgu a chwarae o ansawdd uchel i blant yn y blynyddoedd cynnar.

Mae'r dogfennau Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar (ECPLC) isod ar gael gan Lywodraeth Cymru:

Ddydd Iau 28 Medi 18:00-19:00, cynhaliodd Blynyddoedd Cynnar Cymru sgwrs broffesiynol i amlinellu mwy am ddulliau Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar (ECPLC), sut mae’r fframwaith yn cyd-fynd â fframweithiau cwricwlaidd a phroffesiynol eraill, a'r cyfleoedd sydd ar gael i aelodau i helpu Llywodraeth Cymru i lywio cyfeiriad gweithredu'r polisi hwn yn y dyfodol.

Adnoddau - Medi 2023

Yn y cyfamser, i drafod unrhyw faterion sy'n ymwneud ag Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar (ECPLC), cysylltwch â Dave Goodger, Prif Swyddog Gweithredol, Blynyddoedd Cynnar Cymru.

Page contents

Cysylltwch â ni

 

Defnyddiwch y ffurflen isod i anfon eich ymholiadau a'ch adborth atom ni. *Mae angen gwybodaeth

Ein Swyddfeydd Rhanbarthol

Ble bynnag yr ydych, mae Blynyddoedd Cynnar Cymru’n ceisio bod â swyddfa yn agos atoch chi. Os ydych chi angen ein cefnogaeth, rhowch alwad i ni a gallwn drafod eich ymholiad neu drefnu i un o’n staff cefnogi gyfarfod â chi.

Ein horiau swyddfa yw Dydd Llun – Dydd Gwener (9am – 5pm)