Blynyddoedd Cynnar Actif Cymru Ariannwyd gan y Gronfa Iach ac Egnïol

Dros y pedair blynedd diwethaf, Mae Blynyddoedd Cynnar Cymru wedi arwain prosiect a ariennir gan gronfa Iach ac Egnïol yn llwyddiannus i helpu i godi lefelau gweithgarwch yn blant blynyddoedd cynnar.

Baby in a yellow and white polka dot babygrow doing tummy time on colourful mats

Bwriad y prosiect oedd creu adnoddau a chyfleoedd dysgu, a rennir gyda rhieni a staff blynyddoedd cynnar i hyrwyddo manteision gweithgarwch corfforol i blant o'u genedigaeth hyd at 5 mlwydd oed.

Wrth i ni ddod â'r rhaglen i ben, rydym yn falch o rannu ein hadroddiad cryno. Mae'r adroddiad hwn yn tynnu sylw at yr allbynnau, y llwyddiannau a'r meysydd rydym yn eu datblygu i symud y prosiect yn ei flaen.

Mae adroddiad llawn y Gronfa Iach ac Egnïol ar gael ar gais

Roeddem am roi'r ysbrydoliaeth i helpu oedolion i gynllunio ar gyfer cyfleoedd symud dyddiol gan ddefnyddio deunyddiau rhad ac am ddim, neu gost isel iawn i sicrhau bod plant, o'u genedigaeth, yn cael cynnig y cyfleoedd i archwilio symudiadau i wneud y mwyaf o'u hiechyd ar unwaith a hirdymor.

Wrth wneud hynny, mae ymchwil yn ein hysbysu y bydd y plant yn profi'r symudiadau cywir, ar yr adeg gywir i gynorthwyo eu datblygiad hirdymor a chyfrannu at ddatblygiad plentyn cytbwys sydd yn y sefyllfa orau i adeiladu ar eu profiadau mewn cyd-destunau cymdeithasol ac addysgol.

Trwy'r prosiect hwn, mae ein staff wedi cynhyrchu'r adnoddau hyfforddi o ansawdd uchel canlynol:

  • Babi Actif yn y Cartref
  • Cymru'n Actif Gyda'n Gilydd
  • Babi Actif a Chi
  • Chwarae Symud Ffynnu
  • Babi Actif yn y Cartref - Hyfforddi'r Hyfforddwr

Mae ein hyfforddiant a'n heffaith wedi bod yn sylweddol, a derbyniwyd adborth cadarnhaol o'r holl hyfforddiant. Rydym wedi cynnwys ychydig o enghreifftiau isod yn unig, o'r ymatebion cadarnhaol niferus a gafwyd ledled Cymru:

"Yn hollol ffantastig. Rwyf wedi bod i lawer o grwpiau babanod, ac yn ddiddorol, yr un hon yn bendant yw'r gorau er mai hwn yw'r unig un sy'n rhad ac am ddim. Mae mor addysgiadol, rydw i wedi dysgu cymaint ag mae wedi rhoi hyder i mi o wybod sut i ryngweithio â fy mabi. Mae'r fideos a'r cardiau wedi bod yn ddiddorol iawn, rwyf wedi bod wrth fy modd yn gwneud eitemau synhwyraidd ar gyfer fy mabi, dysgu caneuon newydd, ffyrdd o chwarae, gemau i ysgogi fy mabi a chwrdd â rhieni yn yr un sefyllfa. Rwy'n dymuno i bawb gael mynediad i'r cwrs hwn, dylai fod yn orfodol unwaith y byddwch yn gadael yr ysbyty gyda'ch babi, mae mor ddefnyddiol! Gadewais bob un sesiwn gyda bwrlwm a llawn syniadau i'w gwneud gartref. Rydw i mor drist ei fod drosodd ond o leiaf gallaf fynd â'r syniadau gwych gyda mi a'u defnyddio am flynyddoedd lawer i ddod.

"Mae wedi bod yn wych i ddysgu sut i fod yn actif gyda fy mabi, yn enwedig fel mam am y tro cyntaf."

"Mae cwrdd â rhieni newydd a'u babanod wedi fy helpu gymaint"

"Rwyf wedi mwynhau'r holl sesiynau, yn enwedig y gweithgareddau a'r eitemau y gallwch eu gwneud i helpu symudiad eich babi."

"Dywedodd pob rhiant a ddaeth i'r grŵp eu bod bellach yn teimlo'n fwy hyderus i wneud amser bol yn amlach yn ein gartref"

Os hoffech gael gwybod mwy am ein gwaith llythrennedd corfforol parhaus a'r hyfforddiant a gynigiwn yna ymunwch â ni ddydd Mawrth Medi 26ain rhwng 2.00 a 3.30 ar gyfer ein gweminar ‘Movement Matters: holistic child development through the lens of physical development.’

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Julie Powell: [email protected]

Page contents

Cysylltwch â ni

 

Defnyddiwch y ffurflen isod i anfon eich ymholiadau a'ch adborth atom ni. *Mae angen gwybodaeth

Ein Swyddfeydd Rhanbarthol

Ble bynnag yr ydych, mae Blynyddoedd Cynnar Cymru’n ceisio bod â swyddfa yn agos atoch chi. Os ydych chi angen ein cefnogaeth, rhowch alwad i ni a gallwn drafod eich ymholiad neu drefnu i un o’n staff cefnogi gyfarfod â chi.

Ein horiau swyddfa yw Dydd Llun – Dydd Gwener (9am – 5pm)