Cynhadledd 2025

Corff, Ymennydd, a Pherthyn

Dyna ein thema eleni ac mae'n ymwneud â gweld plant fel pobl gyfan.

Image of a toddler sitting in an Early Years Setting
dydd Iau, 16 Hydref, 2025 - 18:00 to 20:30

Venue: 

Online

Yn ystod plentyndod cynnar, mae datblygiad yn digwydd yn gyflym ac mae'r cyfan yn gysylltiedig. Bydd y gynhadledd eleni yn plymio i sut mae datblygiad gwybyddol, symudiad corfforol a pherthnasoedd plant yn gweithio gyda'i gilydd i lunio eu profiadau cynnar.

Mae ein prif siaradwyr yn cynnwys:

Alistair Bryce-Clegg MBE

Mae Alistair yn siaradwr gwych ac ymgynghorydd blynyddoedd cynnar sydd wedi ysgrifennu 27 o lyfrau arobryn a gyhoeddwyd gan Bloomsbury a Sage. Mae'n gyn-Bennaeth Ysgol fabanod ac Uned Blynyddoedd Cynnar â mynediad tri dosbarth yn Swydd Gaer a sylfaenydd ABC Does... Ymgynghorith Blynyddoedd Cynnar. Alistair oedd yr Arbenigwr Blynyddoedd Cynnar ar gyfres "Old People's Home for 4 Year Olds" a enillodd BAFTA ar Sianel 4.

Yr Athro Christine Pascal OBE

Mae'r Athro Pascal yn llais blaenllaw ar y blynyddoedd cynnar. Sefydlodd, ac mae'n gyd-gyfarwyddwr anrhydeddus CREC, y Ganolfan Ymchwil mewn Plentyndod Cynnar. Mae'r Athro Christine yn gweithio'n helaeth gydag addysgeg Froebelian ac mae'n eiriolwr dros chwarae, cyfiawnder cymdeithasol trwy brofiadau plentyndod cynnar, a grymuso y gweithlu trwy ymarfer myfyriol.

Dr Sharon Colilles

Mae Dr Colilles yn Ddarllenydd mewn Addysg Plentyndod Cynnar Cynhwysol ym Mhrifysgol Fath Spa. Ar hyn o bryd mae'n ymwneud ag ystod o brosiectau ymchwil sy'n ceisio datblygu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o addysg ac ymarfer 'cynhwysol' ystyrlon, yn enwedig mewn perthynas â methodoleg ymchwil a darpariaeth addysg plentyndod cynnar.

Helen Battelley MA

Mae Helen yn ymgynghorydd, hyfforddwr, awdur a siaradwr o fri rhyngwladol mewn Gweithgarwch Corfforol/chwarae symud mewn Addysg Gynnar gydag MA mewn Astudiaethau Plentyndod Cynnar (Gweithgarwch Corfforol a Symud). Mae ei steil hyfforddi yn egnïol, angerddol ac ysgogol iawn. Mae Helen yn cael ei pharchu'n fyd-eang am ei chyfraniad gwerthfawr i godi proffil gweithgarwch corfforol blynyddoedd cynnar a lleihau ymddygiadau eisteddog.

Am ddim aeoldau - Cofrestrwch
£20 heb aelodaeth - Cofrestrwch

Telerau ac Amodau

Drwy gymryd rhan yn yr hyfforddiant hwn, rydych yn cadarnhau eich bod wedi darllen a chytuno â Pholisi Preifatrwydd Blynyddoedd Cynnar CymruTelerau Defnyddio a Thelerau ac Amodau

Iaith

Bydd digwyddiad yn cael ei gyflwyno drwy'r Saesneg. Os oes angen gwasanaeth dehongli Saesneg – Cymraeg, nodwch eich dewis iaith ar y ffurflen archebu

*Sylwer, bydd gwasanaeth dehongli dim ond ar gael pan fydd o leiaf 20% o'r mynychwyr wedi nodi bod angen un arnynt.