Datblygu’r gweithlu

Nod Blynyddoedd Cynnar Cymru yw cefnogi'r gweithlu i feithrin y sgiliau sydd eu hangen er mwyn datblygu gyrfa ym myd gofal plant a chael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth trwy gyfleoedd datblygu proffesiynol o safon.

Workforce Development I Datblygu’r gweithlu

Ein nod yw cefnogi meysydd datblygu allweddol o dan y categorïau canlynol:

  • gwybodaeth – darparu'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch arfer proffesiynol a datblygiadau penodol i sefydliadau
  • sgiliau – defnydd amlwg o wybodaeth a'r defnydd o sgiliau yn y gweithle
  • ymddygiad – defnydd amlwg o werthoedd priodol, ymddygiad addas a sgiliau perthynas yn y gweithle
  • hunanasesu ac arfer myfyriol – adolygu a myfyrio gan ddefnyddio adborth ar weithgareddau dysgu a datblygu

Am arweiniad pellach ar y broses oruchwylio, cyfeiriwch at – Canllaw ar oruchwylio ac arfarnu'n dda 

Adnodd Dysgwyr

Mae cofnodi eich dysgu yn bwysig oherwydd mae'n sicrhau y gallwch ddangos eich datblygiad proffesiynol parhaus, yn ogystal a dangos sut yr ydych yn parhau i fod yn gymwys yn eich proffesiwn.

Mae'r ffurflen isod wedi'i dylunio i'ch helpu i gadw cofnod o'r cwrs a'r sgiliau a ddatblygwyd pan fyddwch wedi cwblhau unrhyw fath o ddysgu

Lawrlwytho
AtodiadMaint
Ffeil Ffurflen Dysgwr i Gofnodi DPP 468.39 KB
DPP
Dolenni defnyddiol

Cysylltwch â ni

 

Defnyddiwch y ffurflen isod i anfon eich ymholiadau a'ch adborth atom ni. *Mae angen gwybodaeth

Ein Swyddfeydd Rhanbarthol

Ble bynnag yr ydych, mae Blynyddoedd Cynnar Cymru’n ceisio bod â swyddfa yn agos atoch chi. Os ydych chi angen ein cefnogaeth, rhowch alwad i ni a gallwn drafod eich ymholiad neu drefnu i un o’n staff cefnogi gyfarfod â chi.

Ein horiau swyddfa yw Dydd Llun – Dydd Gwener (9am – 5pm)