Gofalydd Plant (Dros gyfnod mamolaeth)

Caernarfon, LL54 6HD
Trafodadwy
Dyddiad cau:
5 Medi 2025
Dyddiad cyfweld:
26 Medi 2025
Mae'r swydd yn destun gwiriad DBS boddhaol:
Ie
Cyfnod prawf:
3 months
Disgrifiad swydd

Cymeryd rhan ym mhob gweithgaredd o fewn y feithrinfa. 

Gydymffurfio â gofynion y Ddeddf Plant a bod ag ymwybyddiaeth uchel o ofynion statudol yn y maes gofal dydd. 

Gweithredu gweithdrefnau a pholisiau mewnol ac allanol y Feithrinfa. 

Gweithredu Polisiau Iechyd a Diogelwch, Rhagafalon Tân, Cymorth Cyntaf a threfn meddyginiaethol y Feithrinfa yn briodol ar bob achlysur. 

Parchu cydraddoldeb ac amrywiaeth a chyfrinachedd ar bob achlysur. 

Cyd-gynllunio a gweithredu gweithgareddau o ddydd i ddydd y plant. 

Cyd-orchwylio plant yn cyrraedd a gadael y Feithrinfa gan adrodd i rieni neu warchodwyr fel sydd angen. 

Sicrhau glendid y safle a chynnal a chadw offer fel sydd angen. 

Gweini prydau bwyd y plant a'u goruchwylio. 

Bod yn barod i dderbyn hyfforddiant.

Oriau gwaith

10-38 awr yr wythnos

Sut i wneud cais

Cysylltwch a Sophie Wyn Owen, Rheolwr. 01286 882 552 07398545083 [email protected]

Ffurflen Gais:  

Microsoft Office document icon ffurflen_gais.doc