Category:
smalltalk - gaeaf 2020
smalltalk ... yn cefnogi'r sector blynyddoedd cynnar yng Nghymru am dros 30 mlynedd.
Cyhoeddwyd bob chwarter ers gwanwyn 1986, a'i bostio am ddim i holl aelodau Blynyddoedd Cynnar Cymru. smalltalk yw'r teitl y mae'n rhaid ei ddarllen ar gyfer darparwyr addysg blynyddoedd cynnar a gofal plant blynyddoedd cynnar yng Nghymru.
P'un a ydych chi'n chwilio am syniadau i'w gweithredu yn y lleoliad neu i'ch helpu gyda'ch hyfforddiant a'ch datblygiad, am gael y wybodaeth ddiweddaraf am y newidiadau cwricwlwm neu'r newidiadau diweddaraf mewn deddfwriaeth, mae ein cylchgrawn 28 dudalen lliw llawn, yn llawn dop o erthyglau i'ch ysbrydoli i wreiddio a llywio ymarfer o ansawdd uchel, wrth barhau i redeg busnes llwyddiannus.
Croeso i rifyn yr gaeaf o smalltalk
Yn y rhifyn hwn rydym yn myfyrio ar sut rydym fel sector wedi croesawu technoleg i ddarparu ein gwasanaethau dros y flwyddyn ddiwethaf. Rydym yn clywed sut mae darparwr dysgu yn y gwaith o Gofal Plant a Chwarae, Dysgu a Datblygu Grŵp Llandrillo Menai wedi ailfeddwl sut mae’n cyflwyno hyfforddiant yn y maes allweddol hwn trwy gofleidio llwyfannau fideo-gynadledda ar-lein. Mae Matt Anthony ein Swyddog Cymorth Iaith Cymraeg yn ein diweddaru ar newidiadau cyffrous i gynllun Camau, Dysgu Cymraeg - gan wneud dysgu'n fwy hyblyg a hygyrch trwy e-ddysgu. Mae gennym hefyd wybodaeth bwysig mewn perthynas ag arolygiadau ar y cyd (tud 8) a chan CIW ar SASS 2021 (tud 24).
Darganfyddwch beth arall sydd y tu mewn yma:
4. Gwobrau Blynyddoedd Cynnar Cymru 2020
Rydym yn ôl....cewch weld pam ar dudalen 4.
5. Diweddariad ar: Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad
Cosb Resymol) (Cymru).2020. Diweddariad byr ar y Ddeddf a beth yw ein rhan ni.
6. Sefydliad Moondance ar draeth yn Sir Fôn
Aelod yn sônyn sôn sut mae grant gan Sefydliad Moondance wedi galluogi ei leoliad i weithredu yn ystod y cyfnod clo.
8. Y Cyfnod Sylfaen: Pwnc Trafod– y diweddaraf ynghylch Archwiliadau
Atebion i’ch Cwestiynau Cyffredin
11. Cofiwch y dyddiad: Digwyddiadau Rhwydwaith Rhagoriaeth y Cyfnod Sylfaen 2021
Manylion ein digwyddiadau sydd ar ddod
12. Rhannu Ymarfer o Ansawdd Rhan 2: Amgylchedd Gofal Plant
Yr ail mewn cyfres o erthyglau ble byddwn yn ystyried sut mae’r amgylchedd gofal plant yn gallu chwarae rôl mewn darparu ymarfer o ansawdd.
17. Darparu Cymwysterau Gofal Plant yn wyneb Covid-19
Darparydd dysgu yn y gwaith Chwarae, Dysgu a Datblygu Gofal Plant yn sôn sut y maen nhw wedi gorfod ail feddwl yn gyfan gwbl sut y maen nhw’n darparu hyfforddiant.
20. Dysgu Cymraeg ar lein
Bydd cynllun Dysgu Cymraeg, Camau, ar gyfer gweithlu Addysg a Gofal Plant Blynyddoedd Cynnar, yn mynd ar lein yn 2021. Rydym yn trafod y buddion i chi o hunan astudio.
22. Codi Arian trwy’r Cyfnod Clo – sut mae easyfundraising yn gallu helpu
A yw’r coronafeirws wedi amharu ar eich ffordd o godi arian? Mae dau leoliad yn cynnig eu hawgrymiadau gorau ar sut i ddal ati i godi arian er gwaethaf cyfyngiadau’r cyfnod clo.
24. Gwybodaeth bwysig oddi wrth Arolygiaeth Gofal Cymru
Sut mae’r arolygiaeth wedi addasu ei ffordd o weithio yn ystod y pandemig a’r diweddaraf ynghylch Ddatganiad Hunan Asesiad Gwasanaeth y flwyddyn nesaf.
26. Gair neu ddau oddi wrth ein Prif Weithredwr
Dave Goodger yn hel atgofion am ei 10 mis cyntaf yn ei swydd.
Aelodau: peidiwch ag anghofio mewngofnodi cyn ychwanegu eitemau at eich cart i ddefnyddio eich gostyngiad aelod. I gofrestru fel aelod ewch i'n tudalen aelodaeth