Nod y ddogfen hon yw cefnogi gydag asesu plant ar fynediad i addysg gynnar, gan helpu lleoliadau i ddeall y cynnydd y mae plant yn ei wneud, a helpu plant trwy gefnogi eu taith ddysgu.
Dywedodd ein Swyddog Addysg Blynyddoedd Cynnar, Kelcie Stacey, a oedd yn rhan o'r grwpiau cydweithio a monitro:
'Mae wedi bod yn bleser datblygu dogfen mor adlewyrchol ar gyfer y sector. Rwy'n annog ymarferwyr i ddefnyddio'r ddogfen i'w cefnogi i nodi lle mae plant yn eu dysgu ar hyn o bryd a gweithredu ar yr hyn a welir. Trwy ddatblygu darlun cyfannol o bob plentyn, gall lleoliadau wneud newidiadau ystyrlon i gefnogi a herio dysgu.
Mae tair prif rôl i gymryd sylw yn y ddogfen asesu. Mae'n rhoi gwybodaeth sy'n ein galluogi i:
- cefnogi plant unigol yn barhaus, o ddydd i ddydd
- nodi, dal a myfyrio ar gynnydd plant unigol dros amser, a
- deall cynnydd gwahanol grwpiau o blant er mwyn myfyrio ar ymarfer.'
Wrth i ni symud ymlaen drwy'r haf, byddwn yn cynllunio amser i aelodau ddod at ei gilydd i drafod y fframwaith asesu ar-lein i'ch cefnogi, ac i helpu i ateb unrhyw gwestiynau penodol sydd gennych.
Byddwn yn cysylltu â lleoliadau sy'n aelodau gyda rhagor o wybodaeth maes o law am y sesiynau dysgu dewisol a sgyrsiau proffesiynol hyn.
Yn y cyfamser, os oes gennych gwestiynau neu os oes angen cymorth arnoch, mae croeso i chi gysylltu â Blynyddoedd Cynnar Cymru am help.
Blynyddoedd Cynnar Cymru
Blynyddoedd Cynnar Cymru