Ydych chi'n gweithio gyda phlant 5 oed neu iau sy'n byw yng Nghymru mewn cyd-destun addysg / gofal plant?
Ydych chi eisiau dylanwadu ar sut mae plant ifanc ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yn cael mynediad at gymorth cynnar?
Mae Prosiect Pengwin gwahoddiad i chi ymuno eu panel cyd-ddylunio.
Mae grŵp ymchwil Prosiect Pengwin yn gweithio ar ran Llywodraeth Cymru i ddatblygu offer ac adnoddau a fydd yn cefnogi ymarferwyr iechyd, addysg a gofal plant i adnabod a chefnogi sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu yn y blynyddoedd cynnar.
Mae cam cyntaf y prosiect yn cynnwys creu holiaduron a gweithgareddau i'w defnyddio gan ymarferwyr iechyd a blynyddoedd cynnar i fonitro datblygiad sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu plant a nodi pryd mae angen cymorth ychwanegol. Y nod yw sicrhau bod plant sydd ag anhwylderau iaith a lleferydd, neu rhai sydd mewn peryg o gael y rhain, yn cael eu hadnabod a'u cefnogi'n ymhell cyn iddynt ddechrau ysgol.
Rydym yn eich gwahodd i fynychu tri weithdy cydddylunio ar gyfer y cam hwn o'r prosiect:
Gweithdy 1 (Hyd-Tach ‘23):
Rhannu profiadau a chyd-ddylunio fersiynau cynnar o'r holiaduron a'r gweithgareddau
Gweithdy 2 (Ion-Chwe ’24)
Rhannu profiadau a chyd-ddylunio canllawiau ar gyfer ymarferwyr
Gweithdy 3 (Chwe-Maw ‘24)
Gwneud newidiadau terfynol i'r holiaduron yn seiliedig ar wersi a ddysgwyd o'u profi gyda theuluoeddac ymarferwyr (sydd am gael ei wneud gan y tîm ymchwil yn gynnar yn 2024)
Bydd gweithdai cyd-ddylunio yn 1½ awr o hyd a byddant yn cael eu cynnal ar-lein. Yn ystod y gweithdai byddwch yn cwrdd ag un neu ddau aelod o'r tîm ymchwil ac aelodau eraill o'r panel sy'n gweithio mewn rôl debyg er mwyn:
- Rhannu unrhyw brofiadau sydd gennych o ddefnyddio offer sgrinio a siarad â rhieni am ddatblygiad eu plentyn
- Cyfrannu eich syniadau am yr hyn sy'n bwysig wrth greu offer ac adnoddau sydd i'w defnyddio gyda theuluoedd
- Cael eich gwahodd i roi eich barn ar gwestiynau y byddai rhieni'n cael eu gofyn yn ogystal ag arsylwadau a gweithgareddau y bwriedir eu cynnal gyda phlant wrth weithio i gefnogi datblygiad sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu
Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol arnoch o fod yn rhan o banel cyd-ddylunio, dim ond parodrwydd i fynychu cyfarfodydd a rhoi eich barn fel rhywun sydd â phrofiad o weithio gyda phlant a'u teuluoedd yn y blynyddoedd cynnar.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, cliciwch isod:
Microsoft Forms
Os oes gennych unrhyw gwestiwn gallwch e-bostio: [email protected]