Mae gan Flynyddoedd Cynnar Cymru leoedd gwag ar Fwrdd yr Ymddiriedolwyr ac mae’n chwilio am Ymddiriedolwyr gydag arbenigedd yn y sector blynyddoedd cynnar. Fel sefydliad, rydyn ni’n teimlo ei bod yn bwysig cael cynrychiolwyr o bob rhan o Gymru a byddwn yn croesawu mynegiant o ddiddordeb oddi wrth unrhyw aelod a hoffai fod yn rhan o Fwrdd yr Ymddiriedolwyr, o unrhyw ran o Gymru. Hefyd, fel eiriolydd dros y sector, rydyn ni â diddordeb mewn hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth trwy ein Bwrdd o Ymddiriedolwyr.
Ar hyn o bryd, yn unol â chanllawiau Covid-19, mae cyfarfodydd Bwrdd ein Hymddiriedolwyr yn cael eu cynnal ar lein. Yn y dyfodol, byddwn yn ail gychwyn cynnal y cyfarfodydd yn ein swyddfa yng Nghaerdydd, gyda mynediad o bell i Ymddiriedolwyr sy’n dymuno ymuno â’r cyfarfodydd o rannau eraill o Gymru.
Mae ein strwythur llywodraethiant yn gofyn i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr gyfarfod bob dau fis. Yn ogystal ag arbenigedd yn y sector blynyddoedd cynnar, rydyn ni hefyd yn chwilio am sgiliau, gan gynnwys
- Y Gymraeg
- Meysydd polisi amrywiaeth a chydraddoldeb
- Ymchwil mewn blynyddoedd cynnar a / neu addysg gynnar
- Gwaith codi arian neu elusennol
- Rheoli busnes a chysylltiadau cyhoeddus
Os oes gennych ddiddordeb ond yr hoffech gael sgwrs anffurfiol i ddarganfod mwy am y rôl a'r ymrwymiad, cysylltwch â Dave Goodger, Prif Swyddog Gweithredol ar 07818 4040222
I fynegi diddordeb, anfonwch lythyr byr a CV at [email protected] erbyn dydd Mercher 14 Gorffennaf.
Gweld hefyd: https://www.earlyyears.wales/cy/eyw-vacancy/swyddi-gwag-aelodau-bwrdd