Mae Blynyddoedd Cynnar Cymru yn cynnig aelodaeth am ddim yn 2021/2022

Fel rhan o strategaeth adfer Covid-19, mae Blynyddoedd Cynnar Cymru (Early Years Wales) yn gallu cynnig aelodaeth am ddim yn 2021/22.

early years wales logo

Fel rhan o strategaeth adfer Covid-19, mae Blynyddoedd Cynnar Cymru (Early Years Wales) yn gallu cynnig aelodaeth am ddim yn 2021/22. Gwnaethpwyd y cyfle hwn yn bosibl trwy cyllid gan Lywodraeth Cymru. I fanteisio ar y cynnig hwn, ewch i https://www.earlyyears.wales/cy/become-member-today. Ar y ddolen hon, byddwch yn gallu darganfod popeth am ein gwasanaethau a'n buddion aelodau sy'n cynnwys:

• Mynediad at gefnogaeth ac arweiniad ar bob agwedd ar redeg lleoliad gofal plant gan ein tîm Blynyddoedd Cynnar ymroddedig ac angerddol.

• Rhwydwaith cymorth o'r un anian yn ein fforymau aelodau o ansawdd uchel.

• Postiadau rheolaidd i'ch diweddaru chi gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am y sector a deddfwriaeth.

• Mynediad at adnoddau defnyddiol gan gynnwys tanysgrifiad i'n cylchgrawn aelodau uchel ei glod, Smalltalk.

• Gostyngiad o 25% ar ein holl gyhoeddiadau Saesneg a Chymraeg a'n cynllun sicrhau ansawdd - Ansawdd i Bawb (Quality for All).

• Postiad am ddim o fanylion cyswllt eich lleoliad a'ch swyddi gwag ar ein gwefan.

• Cynrychiolaeth ar bob agwedd ar ddarpariaeth blynyddoedd cynnar gan gynnwys y cyfnod sylfaen, CIW ac awdurdodau lleol

• Mynediad at yswiriant atebolrwydd cyhoeddus grŵp a gwasanaethau gostyngedig gan Towergate Insurance.

• Mynediad at gynllun llaeth am ddim y llywodraeth - trwy Cool Milk.

• Gwasanaethau gostyngedig DBS gan uCheck.

 

 

Cysylltwch â ni i gael mwy o wybodaeth am [email protected] neu 029 2045 1242 neu i gwblhau eich aelodaeth gyda Blynyddoedd Cynnar Cymru. 

Cysylltwch â ni

 

Defnyddiwch y ffurflen isod i anfon eich ymholiadau a'ch adborth atom ni. *Mae angen gwybodaeth

Ein Swyddfeydd Rhanbarthol

Ble bynnag yr ydych, mae Blynyddoedd Cynnar Cymru’n ceisio bod â swyddfa yn agos atoch chi. Os ydych chi angen ein cefnogaeth, rhowch alwad i ni a gallwn drafod eich ymholiad neu drefnu i un o’n staff cefnogi gyfarfod â chi.

Ein horiau swyddfa yw Dydd Llun – Dydd Gwener (9am – 5pm)