Yn yr amgylchedd lleoliad, anogir plant i siarad am eu bywyd cartref a'i rannu. Mae darparu bwydydd cyfarwydd yn helpu plant i wneud y cysylltiad rhwng yr ysgol a'r cartref, sydd yn ei dro yn cefnogi lles ac iechyd.
Sut ydych chi'n annog y cysylltiadau hyn trwy fwyd? Oes gennych chi fwydlen byrbryd cynhwysol ac amrywiol? Ydych chi'n cynnig bwyd yn rheolaidd sy'n tarddu o dreftadaeth a diwylliant gwahanol grwpiau ethnig? Ydych chi'n siarad am y bwyd rydych chi'n ei gynnig ac yn helpu i wneud y cysylltiadau hynny gyda'r plant a'u teuluoedd yn eich lleoliad? Os felly, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
I gymryd rhan yn ein hadnodd byrbrydau iach newydd sbon cysylltwch â: [email protected] erbyn dydd Gwener, 20 Medi 2024