Mae arolwg Llywodraeth Cymru i ddeall effaith lleoedd gofal plant a ariennir nawr yn fyw

Mae Llywodraeth Cymru yn arolygu pob darparwr gofal plant a chwarae sydd wedi'i ariannu a heb ei ariannu.

Mae arolwg Llywodraeth Cymru i ddeall effaith lleoedd gofal plant a ariennir nawr yn fyw

Maen Llywodraeth Cymru eisiau deall mwy am y costau sy'n gysylltiedig â rhedeg busnes gofal plant, a sut rydych chi'n creu incwm. Bydd canlyniadau'r arolwg yn rhan o'r adolygiad cyfradd nesaf.

Mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn deall hyn er mwyn llywio penderfyniadau polisi sy'n cael eu gwneud, gan gynnwys ynghylch y cyfraddau y maent yn eu talu am raglenni a ariennir a mathau eraill o gymorth a gynigir i ddarparwyr.

Byddant yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch iddynt ochr yn ochr â gwybodaeth berthnasol arall, megis mesurau chwyddiant prisiau yn economi'r DU a gwybodaeth am gyflogau staff, gan gynnwys yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol a'r Cyflog Byw Cenedlaethol.

Byddai Blynyddoedd Cynnar Cymru yn annog darparwyr i gwblhau'r arolwg hwn. Nod y wybodaeth yw darparu cyfradd fwy gwybodus o gyllid i'r sector wrth ddarparu lleoedd a ariennir.

Fel y gwyddom, nid yw'r £5 yr awr bresennol yn ddigonol; Mae helpu Llywodraeth Cymru i ddeall costau darparu gofal plant rheoleiddiedig ac a gyllidir, y costau cyflog uwch ers yr adolygiad o'r gyfradd ddiwethaf, a sut mae'r lleoedd a ariennir yn dylanwadu ar eich modelau busnes yn bwysig.

Os oes angen cymorth arnoch gyda'r arolwg, cysylltwch â ni a bydd un o'r tîm yn hapus i'ch helpu gyda'ch ymholiadau.

Gallwch gwblhau'r arolwg yma:
Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd mewn:

Cysylltwch â ni

 

Defnyddiwch y ffurflen isod i anfon eich ymholiadau a'ch adborth atom ni. *Mae angen gwybodaeth

Ein Swyddfeydd Rhanbarthol

Ble bynnag yr ydych, mae Blynyddoedd Cynnar Cymru’n ceisio bod â swyddfa yn agos atoch chi. Os ydych chi angen ein cefnogaeth, rhowch alwad i ni a gallwn drafod eich ymholiad neu drefnu i un o’n staff cefnogi gyfarfod â chi.

Ein horiau swyddfa yw Dydd Llun – Dydd Gwener (9am – 5pm)