Lleisiau'r Aelodau, newidiadau arfaethedig SGC: defnyddiwch eich llais!

Ymunwch â ni i rannu eich barn ar y newidiadau arfaethedig i'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol gyda ni fel y gallwn wir adlewyrchu eich lleisiau yn ein hadborth i Lywodraeth Cymru.

Lleisiau'r Aelodau, newidiadau arfaethedig SGC: defnyddiwch eich llais!

Mae Llywodraeth Cymru wedi agor ymgynghoriad ar eu newidiadau arfaethedig i'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir ar gyfer plant hyd at 12 oed.(link is external)

Maent yn ymgynghori ar:

  • Gofynion Cymorth Cyntaf (Safon 10)
  • Gwarchodwyr plant sydd â chynorthwywyr (Safon 13) (Gwarchodwyr plant)
  • Cymwysterau gofal plant darparwyr gofal dydd (Safon 13) (Gofal dydd)
  • Aelod staff ychwanegol (Safon 15)
  • Ansawdd (Safon 18)
  • Diogelu (Safon 20)

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd yr ymgynghoriad hwn wrth lunio a mireinio'r rheolau y mae'n rhaid i chi gadw atynt ac rydym am eich cefnogi i sicrhau bod eich lleisiau'n cael eu clywed.

I wneud hyn, byddem wrth ein bodd yn clywed pa wahaniaeth rydych chi'n meddwl y bydd y newidiadau arfaethedig yn ei wneud i chi a'ch lleoliad. Ydych chi'n meddwl mai dyma'r newidiadau cywir i'w gwneud? Yn eich barn chi, beth yw'r goblygiadau cadarnhaol posibl ac a ydych yn credu y bydd canlyniadau anfwriadol i'r newidiadau hyn?

Dewch i drafod eich syniadau gyda ni, bydd pob cyfraniad yn cael ei werthfawrogi.

https://www.earlyyears.wales/cy/events

Os na allwch ddod i un o'n digwyddiadau ac os hoffech rannu eich barn am y newidiadau arfaethedig o hyd, mae croeso i chi anfon e-bost at Maggie Kelly [email protected] a fydd yn coladu ein hymateb i'r ymgynghoriad.

Page contents

Cysylltwch â ni

 

Defnyddiwch y ffurflen isod i anfon eich ymholiadau a'ch adborth atom ni. *Mae angen gwybodaeth

Ein Swyddfeydd Rhanbarthol

Ble bynnag yr ydych, mae Blynyddoedd Cynnar Cymru’n ceisio bod â swyddfa yn agos atoch chi. Os ydych chi angen ein cefnogaeth, rhowch alwad i ni a gallwn drafod eich ymholiad neu drefnu i un o’n staff cefnogi gyfarfod â chi.

Ein horiau swyddfa yw Dydd Llun – Dydd Gwener (9am – 5pm)