Grant Gofal Plant | Busnes Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn lansio Grant Gofal Plant er mwyn helpu i greu llefydd gofal plant hyblyg ychwanegol ledled Cymru. Mae dau Grant gwahanol ar gael o dan y cynllun a’u nod yw helpu i gynyddu nifer y llefydd gofal plant.

Early Years Wales Logo
Mwy

Grant Gofal Plant – Busnes Newydd

Mae’r grant hwn ar gael i ddenu gwarchodwyr plant newydd at y sector. Bydd yn cynnig rhywfaint o gymorth ariannol i helpu gyda rhai o’r costau sy’n gysylltiedig â dechrau busnes gwarchod plant.

Grant Gofal Plant – Gweithwyr Newydd

Nod y grant hwn yw annog swyddi newydd i gael eu creu ar draws y sector gofal plant. Bydd yn cynnig cyllid i gefnogi cyflogau a gorbenion tra bydd y llefydd gofal plant ychwanegol yn cael eu llenwi.

I wneud cais, rhaid i ymgeiswyr:

  • fod wedi cofrestru â Busnes Cymru
  • bod wedi cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) adeg talu’r Grant
  • gallu dangos y bydd y cyllid yn helpu i gyfrannu at gynyddu nifer y llefydd gofal plant hyblyg

I gael rhagor o wybodaeth am sut i lenwi’r cais a chyflwyno’r ffurflenni, rhaid i chi lawrlwytho’r nodiadau canllaw a’r ffurflenni cais perthnasol isod. Os ydych chi’n bodloni’r meini prawf ac yn awyddus i wneud cais, cysylltwch â Busnes Cymru ar 03000 6 03000 i gofrestru.

Derbynnir ffurflenni cais o ddydd Llun 30 Medi 2019, pan fydd y gronfa’n weithredol.

Mae Grantiau Gofal Plant Busnes Cymru ar agor i geisiadau tan 31 Mawrth 2020 (Grant Gofal Plant- Busnes Newydd) a 31 Awst 2020 (Grant Gofal Plant -Gweithwyr Newydd), ar yr amod bod cyllid ar gael.

Ffurflen Gais Grant Gofal Plant Busnes Newydd
Nodiadau Cyfarwyddyd Grant Gofal Plant Busnes Newydd

Ffurflen Gais Grant Gofal Plant Gweithwyr Newydd
Nodiadau Cyfarwyddyd Grant Gofal Plant Gweithwyr Newydd

Page contents

Mwy

Cysylltwch â ni

 

Defnyddiwch y ffurflen isod i anfon eich ymholiadau a'ch adborth atom ni. *Mae angen gwybodaeth

Ein Swyddfeydd Rhanbarthol

Ble bynnag yr ydych, mae Blynyddoedd Cynnar Cymru’n ceisio bod â swyddfa yn agos atoch chi. Os ydych chi angen ein cefnogaeth, rhowch alwad i ni a gallwn drafod eich ymholiad neu drefnu i un o’n staff cefnogi gyfarfod â chi.

Ein horiau swyddfa yw Dydd Llun – Dydd Gwener (9am – 5pm)