Gall blawd amrwd gynnwys bacteria fel Escherichia coli (E.coli) a gall achosi gwenwyn bwyd os caiff ei fwyta. Mae'r diweddariad newydd wedi dileu'r opsiwn o ddefnyddio triniaeth wres, wrth reoli risg. Mae'r canllawiau diwygiedig bellach yn canolbwyntio ar ddefnyddio mesurau hylendid i leihau risg. Efallai yr hoffech ddefnyddio'r cyngor hwn i gefnogi sut rydych yn rheoli'r risgiau yn ystod y gweithgareddau hyn.
Mae'n arbennig o bwysig dilyn y cyngor hwn, wrth ofalu am blant oherwydd efallai na fydd eu system imiwnedd yn gallu ymladd heintiau mor hawdd, felly mae angen gofal ychwanegol wrth drin y cynhyrchion hyn.