Digwyddiad Adolygu a Dathlu Cronfa Iach ac Egnïol (HAF)

Yn ddiweddar, derbyniodd Blynyddoedd Cynnar Cymru wahoddiad i fynychu Digwyddiad Adolygu a Dathlu Cronfa Iach ac Egnïol (HAF) gyda RCS yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd.

Welsh Active Early Years

Roedd y Gronfa Iach ac Egnïol (HAF) yn gyfle cyffrous i sefydliadau a'u partneriaid weithio gyda'i gilydd a chreu cyfleoedd yn eu cymunedau i bobl gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, wedi'u teilwra i ddiwallu anghenion lleol, gyda'r nod o wella lles corfforol a meddyliol.

Cafodd ein prosiect HAF Blynyddoedd Cynnar Actif Cymru, a phrosiectau HAF llwyddiannus eraill, gyfle i rannu eu profiadau ac arddangos eu llwyddiannau o'u prosiectau.

Gwnaethom ddatblygu fideo a fyddai'n rhannu gwaith Blynyddoedd Cynnar Actif Cymru orau ac rydym mor falch o allu rhannu hyn gyda chi nawr. Mae'n cynnwys dadansoddiad o wahanol linynnau'r prosiect, y llwyddiannau/canlyniadau a gyflawnwyd a sut rydym yn parhau â chynaliadwyedd y prosiect drwy ein cynnig craidd Blynyddoedd Cynnar Cymru. Sylwch fod y fideo hwn ar gael yn Saesneg yn unig gan fod y siaradwr, ac arweinydd y prosiect, yn unieithog.

Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y prosiect hwn, neu os oes gennych unrhyw adborth yr hoffech ei rannu, e-bostiwch: [email protected] 

Page contents