Cynnig Gofal Plant Cymru

Ydych chi'n ddarparwr Cynnig Gofal Plant Cymru?

 

Cynnig Gofal Plant Cymru

Ydych chi'n ddarparwr Cynnig Gofal Plant Cymru? Os ydych yn ymwybodol nad yw rhieni sydd eisiau derbyn y Cynnig trwy'ch lleoliad wedi cyflwyno eu cytundeb neu wedi cael eu cytundeb wedi'i gadarnhau gennych, atgoffwch nhw i wneud hynny erbyn canol dydd ar 13 Ionawr.

Er mwyn derbyn taliadau Cynnig Gofal Plant Cymru am ofal ddarparwyd o 9 Ionawr 2023, bydd angen i chi wedi:

  1. Cofrestru eich lleoliad ar-lein a chael eich cymeradwyo gan eich awdurdod lleol.
  2. Actifadu eich cyfrif ar-lein.
  3. Cadarnhau Cytundebau ar-lein gyflwynwyd gan rieni. I wneud hyn, mewngofnodwch i’ch cyfrif a checiwch eich dangosfwrdd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

Os nad yw cytundebau gyda rhieni newydd wedi'u cadarnhau erbyn hanner dydd, 13 Ionawr 2023, ni fydd y gofal plant a ddarperir yn ystod w/c 9 Ionawr yn cael ei ariannu gan y Cynnig Gofal Plant.

Os ydych yn ymwybodol o rieni sy'n dymuno derbyn y Cynnig Gofal Plant, ond heb gyflwyno Cytundeb ar-lein eto, a wnewch chi eu hatgoffa nhw fod rhaid i Gytundeb gael ei gyflwyno a’i gadarnhau gennych chi.

Er mwyn hawlio taliadau, bydd angen ichi ddilyn y camau syml hyn:

  • Mewngofnodwch i'ch cyfrif
  • Ewch at eich taflenni amser a nodwch Oriau sy wedi’u Harchebu ac Oriau Gwirioneddol (gweler isod)
  • Gwiriwch a chyflwynwch am dâl
  • Byddwch yn derbyn eich cyfeirnod talu
  • Byddwch yn derbyn eich taliad o fewn 3 diwrnod gwaith (gan ddibynnu ar brosesau eich banc)
  • Byddwch yn derbyn hysbysiad talu drwy e-bost

Oriau Cytundeb yw uchafswm yr oriau y bydd angen ar y rhiant mewn unrhyw wythnos. Bydd y rhain yn cael eu rhag-boblogi i mewn i’r taflenni amser.

Oriau wedi'u Harchebu yw'r oriau y mae'r rhiant yn eu harchebu o wythnos i wythnos o fewn yr uchafswm hwnnw. Bydd lleoliadau yn cael eu talu ar sail yr Oriau wedi’u Harchebu. Er mwyn sicrhau tryloywder, bydd rhieni'n gallu gweld yr Oriau wedi’u Harchebu y mae'r lleoliad yn hawlio amdanynt.

Oriau Gwirioneddol yw'r oriau y mynychodd y plentyn mewn gwirionedd.

Mae canllawiau mwy manwl ar gael yma. Mae fideos hyfforddi ar gael yma.

Noder os gwelwch yn dda, dylid hawlio taliadau drwy hen system yr Awdurdod Lleol am y sawl sy wedi bod yn derbyn y Cynnig ers cyn 9 Ionawr– gweler yr atodedig.

Cysylltwch â ni

 

Defnyddiwch y ffurflen isod i anfon eich ymholiadau a'ch adborth atom ni. *Mae angen gwybodaeth

Ein Swyddfeydd Rhanbarthol

Ble bynnag yr ydych, mae Blynyddoedd Cynnar Cymru’n ceisio bod â swyddfa yn agos atoch chi. Os ydych chi angen ein cefnogaeth, rhowch alwad i ni a gallwn drafod eich ymholiad neu drefnu i un o’n staff cefnogi gyfarfod â chi.

Ein horiau swyddfa yw Dydd Llun – Dydd Gwener (9am – 5pm)