Ar 1 Mawrth 2021, lansiodd Llywodraeth Cymru ei hymgyrch #hawliadyarian / #claimwhatsyours i annog pobl i wirio pa fudd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt, a’u hawlio. Mae'r ymgyrch yn targedu teuluoedd incwm isel ledled Cymru yn ogystal â chynulleidfa ehangach o bobl y gallai fod angen cymorth arnynt nawr oherwydd effeithiau ariannol y pandemig.
Dim ond rhan o'i daith tuag at gael arian ychwanegol yn ei boced yw codi ymwybyddiaeth person. Felly, mae annog pobl i gysylltu â llinell gymorth Advicelink Cymru am gymorth uniongyrchol ar 0808 250 5700 yn neges gref yn yr ymgyrch. Byddant yn cael cyngor cyfrinachol o ansawdd ar eu hawliau o ran budd-daliadau, a mynediad i'r holl gyngor a chymorth arall sydd ar gael drwy wasanaethau Cronfa Gynghori Sengl Llywodraeth Cymru.
I gael mwy o wybodaeth am yr ymgyrch #hawliadyarian
Ymweld: https://llyw.cymru/hawliwch-yr-hyn-syn-ddyledus-i-chi
Os yw'r pandemig coronafirws wedi effeithio arnoch chi, mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru'r wybodaeth a'r gefnogaeth sydd ar gael i chi.
Dadlwythwch daflen Cymorth Ariannol Covid-19 i Unigolion yma: https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2021-01/cymorth-ariannol-i-unigolion-taflen.pdf
Mae'r Gronfa Cymorth Dewisol (DAF) yn gronfa grant sy'n seiliedig ar alw sy'n cynnig taliadau neu gymorth mewn nwyddau (eitemau hanfodol ar gyfer cartrefi a nwyddau gwyn) i roi cymorth brys i bobl i ddiogelu iechyd a lles.
Am wybodaeth bellach ewch i: https://llyw.cymru/cronfa-cymorth-dewisol-daf
Drwy ariannu Dangos Cymru rydym yn cefnogi'r gwaith o ddarparu sesiynau codi ymwybyddiaeth am ddim i weithwyr rheng flaen er mwyn cynyddu eu dealltwriaeth o fudd-daliadau lles a'u gallu i annog pobl y maent yn eu cefnogi i wneud cais am fudd-daliadau lles y mae ganddynt hawl iddynt. Dechreuodd y sesiynau ym mis Ionawr ac maent yn boblogaidd ac yn hynod lwyddiannus, cymaint felly mae cynlluniau ar waith i gynyddu nifer y sesiynau sy'n cael eu cyflwyno i ateb y galw a ddangosir ledled Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth a digwyddiadau, ewch i: https://www.dangos.cymru/