Blynyddoedd Cynnar Cymru yn ymuno â Laura Henry Allain MBE i lansio llyfr plant gwrth-hiliaeth yn y Gymraeg

Mae Blynyddoedd Cynnar Cymru yn falch o fod yn bartner lansio swyddogol Fy Nghroen I Dy Groen Di

image is front cover of Fy Nghroen I Dy Groen Di

Ni fydd aelodau Blynyddoedd Cynnar Cymru yn ddieithr i Laura Henry Allain MBE. Mae Laura yn gynhyrchydd, storïwr, addysgwr, prif siaradwr ac ymgynghorydd. Hi yw crëwr y gyfres JoJo a Gran Gran a ddatblygwyd ac a gynhyrchwyd gan CBeebies.

Mae ei llyfr blant poblogaidd, My Skin Your Skin, a ddarluniwyd gan Onyinwe Iwu, yn archwilio hil a hiliaeth, ac yn grymuso plant i fod y fersiynau gorau ohonynt eu hunain. Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod My Skin Your Skin wedi cael ei addasu i'r Gymraeg gan Mared Llwyd a'i chyhoeddi gan Rily Publications Ltd, Caerffili.

Cyfarfu Blynyddoedd Cynnar Cymru â Laura am y tro cyntaf ddiwedd 2022 pan ymunodd â'n rhaglen hyfforddi'r Hydref. Ysbrydolodd Laura ymarferwyr a'u grymuso i ddarparu cyfleoedd dilys ac ystyrlon i blant a theuluoedd gydnabod eu hunain mewn llenyddiaeth drwy ddull ymarferol o adrodd straeon.

Yn 2023, parhaodd Laura i fod yn hynod gefnogol i'r gwaith gwrth-hiliol sy'n cael ei wneud yn sector y blynyddoedd cynnar yng Nghymru, ac roeddem yn falch iawn o'i chroesawu i Wobrau a Chynhadledd Blynyddoedd Cynnar Cymru ym mis Mehefin fel y prif siaradwr ac i gyflwyno gwobr.

Ddiwedd 2023, cawsom ein hanrhydeddu pan gysylltodd cyhoeddwyr Laura, Penguin Random House, i ofyn a fyddem yn cefnogi lansiad Fy Nghroen I Dy Groen Di yng Nghymru. Gan weithio ochr yn ochr â Rily Publications a'r Mudiad Meithrin, byddwn yn cynnal digwyddiad arbennig iawn i'r plant a'r staff yng Nghylch Meithrin Tedi Twt yng Nghaerffili ddydd Gwener, 15 Mawrth.

I nodi'r achlysur, mae Laura wedi llunio neges arbennig iawn i ni i gyd

 

Cadwch lygad ar ein gwefan a'n sianeli cyfryngau cymdeithasol lle byddwn yn rhannu'r holl hwyl o'r diwrnod

Os hoffech chi gael cyfle i ennill copi wedi'i lofnodi o Fy Nghroen I Dy Groen Di ar gyfer eich lleoliad, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw e-bostio [email protected] gydag enw eich lleoliad a'ch rhif aelodaeth erbyn hanner nos, ddydd Gwener 15 Mawrth 2024.

Mae Fy Nghroen I Dy Groen Di ar gael o'ch siop lyfrau lleol neu www.rily.co.uk

Cysylltwch â ni

 

Defnyddiwch y ffurflen isod i anfon eich ymholiadau a'ch adborth atom ni. *Mae angen gwybodaeth

Ein Swyddfeydd Rhanbarthol

Ble bynnag yr ydych, mae Blynyddoedd Cynnar Cymru’n ceisio bod â swyddfa yn agos atoch chi. Os ydych chi angen ein cefnogaeth, rhowch alwad i ni a gallwn drafod eich ymholiad neu drefnu i un o’n staff cefnogi gyfarfod â chi.

Ein horiau swyddfa yw Dydd Llun – Dydd Gwener (9am – 5pm)