Mae'r Gweithgor yn gyfle i chi, fel gweithwyr proffesiynol blynyddoedd cynnar, fwydo i agenda polisi Blynyddoedd Cynnar Cymru.
Rydym am sicrhau bod ein gwaith yn adlewyrchu eich lleisiau, gan fod eich gwybodaeth a'ch profiad uniongyrchol o'r hyn sy'n gweithio, a'r hyn nad yw'n gweithio, yn hanfodol i'n galluogi i lunio ein hymgyrchoedd er budd y sector hwn sy'n esblygu'n barhaus.
Bydd y Gweithgor yn cael ei gynnal bob ail fis a bydd yn seiliedig ar bwnc penodol sy'n berthnasol i ddarpariaeth Blynyddoedd Cynnar. Cynhelir cyfarfod dwrn y gweithgor ddydd Mercher 2ail Hydref, 09:30 – 10:30 ar Microsoft Teams, gyda'n pennaeth Polisi ac Eiriolaeth, Leo Holmes.
Pwnc y cyfarfod cyntaf fydd E-ddiogelwch mewn lleoliadau Blynyddoedd Cynnar.
I gofrestru ar gyfer y gweithgor, cliciwch yma, a byddwn yn cysylltu â dolen i'r cyfarfod.
Blynyddoedd Cynnar Cymru
Os na allwch ddod i'r cyfarfod ar 2ail Hydref, bydd y grŵp hefyd yn cyfarfod ar y dyddiadau canlynol:
- Dydd Mercher 4ydd Rhagfyr, pwnc i’w cadarnhau
- Dydd Mercher 5ed Chwefror, pwnc i’w cadarnhau