Blynyddoedd Cynnar Cymru yn croesawu adolygiad blynyddol o'r gyfradd gofal plant

Mae Blynyddoedd Cynnar Cymru yn croesawu'r cyhoeddiad a wnaed gan Lywodraeth Cymru ddydd Mercher 20 Tachwedd, gan amlinellu y bydd y gyfradd gofal plant fesul awr yn cael ei hadolygu'n flynyddol.

Adult wearing a blue tank top holding child wearing a blue top adds up using an abacus

Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn adolygu'r gyfradd fesul awr sy'n cael ei thalu i ddarparwyr gofal plant bob tair blynedd. Galwodd llawer o sefydliadau yn y sector gofal plant, gan gynnwys Blynyddoedd Cynnar Cymru am gynnydd yn rheoleidd-dra'r adolygiadau cyfraddau gofal plant er mwyn cadw i fyny â chostau gweithredu cynyddol.

Felly, bydd adolygiadau blynyddol yn darparu mwy o sefydlogrwydd ariannol yn y sector, gan helpu darparwyr i fodloni'r gofynion a achosir gan gostau cynyddol.

"Rydym yn falch iawn o weld cynnydd yn rheoleidd-dra'r gyfradd gofal plant fesul awr gan Lywodraeth Cymru. Bydd adolygiadau rheolaidd yn helpu i sicrhau bod y gyfradd yn gallu adlewyrchu'r costau sy'n wynebu darparwyr, gan ychwanegu mwy o sefydlogrwydd i'r sector.

Rydym yn falch o weld ein galwadau yn cael eu hadlewyrchu mewn polisïau newydd, ac edrychwn ymlaen at barhau â'n gwaith gyda Llywodraeth Cymru yn lleisio galwadau'r sector."

- Prif Weithredwr Blynyddoedd Cynnar Cymru, David Goodger

Page contents