Arweiniwyd y cyfarfod gan Glenda Dudley a Wendy Thomas o’r Bartneriaeth Dysgu Cymru, a darparwyd mewnwelediad arbennig i’r cwricwlwm yng Nghymru. Roedd y cyfarfod hwn yn gyfle gwych i arweinwyr archwilio rhai o'r heriau a'r cyfleoedd sy’n bodoli; yn ogystal â chael trafodaethau a fydd yn eu galluogi i Arwain a rheoli newid yn llwyddiannus yn eu timau. Roedd gwybodaeth arbenigol a dealltwriaeth Wendy a Glenda o’r newidiadau hanfodol i gynllunio, yn sail ar gyfer sgyrsiau diddorol iawn, a chefnogwyd y cyfranogwyr i ystyried ffyrdd y gall yr oedolyn sy’n galluogi, a’r amgylchedd effeithiol, gyfrannu at lwyddiant y cwricwlwm newydd. Drwy ddefnyddio arddull addysgegol, rhoddir amser i gyfranogwyr adeiladu, cydweithio, integreiddio, ystyried ac ymgysylltu â syniadau mewn ffordd weithredol, yn hytrach nag eistedd a gwrando yn unig.
Caiff pob cyfarfod ei arwain gan y Bartneriaeth Dysgu Cymru a chynhelir y cyfarfodydd ar-lein. Mae amser o hyd i ymuno â’r cyfarfodydd Touchpoint canlynol ac i roi mewnbwn ynghylch pynciau cyfarfodydd i ddod, gan y caiff rhain eu penderfynu yn seiliedig ar fewnbwn deinamig ac ymatebol gan fynychwyr, gan ganiatáu i’r sesiynau ddiwallu anghenion y mynychwyr a chefnogi eu hymarfer.
Am fwy o wybodaeth, a sgwrs anffurfiol i drafod os yw’r cyfarfodydd hyn yn addas i chi, plis anfonwch ebost at:
Touchpoint 3
- Mehefin 14eg 2022
Touchpoint 4
- Gorfennaf 14eg 2022
Touchpoint 5
- Medi 14eg 2022
Touchpoint 6
- Tachwedd 24ain 2022
Touchpoint 7
- Ionawr 18fed 2023
Mae Rhwydwaith Arwain ac Ysbrydoli Blynyddoedd Cynnar Cymru yn rhad ac am ddim i bob aelod fod yn rhan ohono.
Ddim yn aelod, ddim yn broblem! Mae aelodaeth AM DDIM ar hyn o bryd. I ddarganfod mwy ewch i: https://www.earlyyears.wales/cy/aelodaeth