Blynyddoedd Cynnar Cymru’n derbyn Cyllid Iach a Bywiog

Mae Blynyddoedd Cynnar Cymru wrth ei bodd yn cyhoeddi y bydd yn derbyn Cyllid Iach a Bywiog gan Chwaraeon Cymru i ddarparu’r rhaglen Blynyddoedd Cynnar Bywiog Cymru mewn partneriaeth â Gymnasteg Cymru

Logo
Mwy

Mae Blynyddoedd Cynnar Cymru wrth ei bodd yn cyhoeddi y bydd yn derbyn Cyllid Iach a Bywiog gan Chwaraeon Cymru i ddarparu’r rhaglen Blynyddoedd Cynnar Bywiog Cymru mewn partneriaeth â Gymnasteg Cymru

Sefydliad ymbarél arbenigol yw Blynyddoedd Cynnar Cymru sydd wedi ymrwymo i ddatblygiad plant o 0 i 5 oed drwy gefnogi darparu i blant yng Nghymru gyfleoedd i ddysgu a chwarae’n greadigol gyda strwythur a sicrwydd ansawdd.

Mae Blynyddoedd Cynnar Cymru a Gymnasteg Cymru wedi partneru i ddarparu’r rhaglen Blynyddoedd Cynnar Bywiog Cymru i blant 0 – 5 ledled Cymru.  Bydd y rhaglen bedair wythnos, ddwyieithog, aml sgiliau yn cael ei seilio ar symud a chwarae yn cael ei darparu’n uniongyrchol i blant a rhieni / gofalwyr mewn mannau cymunedol a lleoedd awyr agored mewn 12 cymuned.

Bwriad y prosiect yw cael plant ac oedolion i ddechrau mwynhau chwarae’n fywiog a’u galluogi i sylweddoli manteision ffordd o fyw iach yn hytrach na gweld hynny fel her neu ddiflastod.  Yn y rhaglen, mae pwysigrwydd chwarae’n ganolog i iechyd a lles corfforol, meddyliol, cymdeithasol ac emosiynol plentyn sy’n arwain at gadernid ac hyblygrwydd ac yn cyfrannu at les corfforol ac emosiynol.

Bydd PACEY, y Sefydliad Proffesiynol Gofal Plant a Blynyddoedd Cynnar, yn helpu i gyd ddarparu’r rhaglen gyda chyd bartneriaid Clybiau Plant Cymru Kids’ Club, Mudiad Meithrin ac NDNA Cymru yn helpu i hyrwyddo’r rhaglen Blynyddoedd Cynnar Bywiog Cymru.

Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda phlant a’u teuluoedd / gofalwyr a chychwyn ar berthynasau newydd.  Yn ystod cyfnod y prosiect tair blynedd, bydd Blynyddoedd Cynnar Cymru’n gweithio gyda thua 360 o bobl.

I gael y diweddaraf am raglen Blynyddoedd Cynnar Bywiog Cymru:

Canfod ni ar Facebook

activetogetherwales

Dilyn ni ar Twitter

WalesActive

Dilyn ni ar Instagram

activetogetherwales

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch y rhaglen Blynyddoedd Cynnar Bywiog Cymru neu ymholiadau’r cyfryngau, cysylltwch â

Charlotte Davies, Cydlynydd Cyfathrebu a Marchnata ar:

029 2045 1242 / 07875 750328

[email protected]

 

earlyyears.wales / blynyddoeddcynnar.cymru

Cefndir i’r Wasg:

I gael rhagor o wybodaeth neu ymholiadau’r wasg, cysylltwch â Charlotte Davies, Cydlynydd Cyfathrebu a Marchnata ar 029 2045 1242 neu 07875 750328.

Mae Blynyddoedd Cynnar Cymru’n elusen gofrestredig yn cefnogi dros 800 o fusnesau sy’n aelodau yng Nghymru ac yn darparu gwasanaethau Blynyddoedd Cynnar, Gofal Plant a Chwarae i fwy na 25,000 o blant 0 – 5 oed.  Mae hyn yn cynnwys cyfleoedd i ddysgu drwy chwarae, gofal plant ar gyfer rhieni sy’n gweithio neu’n hyfforddi, Cyfnod Sylfaen, y Cynnig Gofal Plant 30 awr, Dechrau’n Deg a’r Cynllun Cyfeirio Anghenion Dysgu Ychwanegol.

O dan ei enw blaenorol Cymdeithas Darparwyr Cyn-ysgol Cymru mae Blynyddoedd Cynnar Cymru wedi cynrychioli a datblygu gwasanaethau blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae am bron i 60 mlynedd gan helpu i sefydlu a chefnogi gofal plant mewn grwpiau chwarae, meithrinfeydd dydd a grwpiau rhieni a phlant bach..

Gyda phrif swyddfa ym Mae Caerdydd, mae gennym ni hefyd swyddfeydd rhanbarthol yng Nghasnewydd, Abertawe a Llanelwy.

Page contents

Mwy

Cysylltwch â ni

 

Defnyddiwch y ffurflen isod i anfon eich ymholiadau a'ch adborth atom ni. *Mae angen gwybodaeth

Ein Swyddfeydd Rhanbarthol

Ble bynnag yr ydych, mae Blynyddoedd Cynnar Cymru’n ceisio bod â swyddfa yn agos atoch chi. Os ydych chi angen ein cefnogaeth, rhowch alwad i ni a gallwn drafod eich ymholiad neu drefnu i un o’n staff cefnogi gyfarfod â chi.

Ein horiau swyddfa yw Dydd Llun – Dydd Gwener (9am – 5pm)