BLOG: Gweithgareddau Gemau’r Gymanwlad 2022 ar gyfer y cartref ac yn y lleoliad

PAROD, AROS, EWCH! Gyda Blynyddoedd Cynnar Cymru #CommonwealthGamesActivityPack.

Early Years Wales Commonwealth Games Activity Pack

Daw Gemau’r Gymanwlad â chenhedloedd at ei gilydd mewn dathliad lliwgar o chwaraeon a pherfformiad dynol. Ond mae’r Gemau wedi esblygu’n ddramatig ers eu dechreuad ym 1930.

Yn cael eu cynnal pob pedair blynedd, gyda bwlch yn ystod yr Ail Ryfel Byd, mae’r Gemau wedi tyfu o gynnwys 11 o wledydd a 400 athletwr, i arddangosfa byd eang o 6,600 o athletwyr, dynion a merched, o 72 o genhedloedd a thiriogaethau.

Dynoliaeth, cydraddoldeb a thynged yw’r gwerthoedd craidd, sy’n sail i nod y Gemau o uno teulu'r Gymanwlad trwy ŵyl ogoneddus o chwaraeon. Yn cael ei galw’n aml y ‘Gemau Cyfeillgar’, mae’r digwyddiad yn enwog am ysbrydoli athletwyr i gystadlu mewn ysbryd o gyfeillgarwch a chwarae teg.

I ddathlu Gemau’r Gymanwlad eleni ym Mirmingham #B2022 (28 Gorffennaf - 8 Awst), ac i gefnogi Tîm Cymru #timcymru, mae Blynyddoedd Cynnar Cymru wedi ymuno gyda Blynyddoedd Cynnar Actif Cymru i ail lansio eu cardiau gweithgaredd Olympaidd llwyddiannus iawn i leoliadau a theuluoedd eu mwynhau wrth ddisgwyl am y gemau.

Mae’r #CommonwealthGamesActivityPack Blynyddoedd Cynnar Cymru wedi’i ddylunio i gael eich plant a theuluoedd yn actif gyda’r nod o:

  • Datblygu cariad ar y cyd at weithgaredd corfforol
  • Ystyried datblygiad corfforol cynnar a chymryd rhan mewn gweithgareddau hwyliog sy’n datblygu sgiliau sylfaenol cynnar
  • Bod yn fwy ymwybodol o fanteision gweithgaredd corfforol
  • Darparu cyfleoedd i brofi a datblygu diddordeb mewn chwaraeon

Wrth agor y pecyn adnoddau, byddwch yn gweld cyfres o gardiau gweithgaredd ar gyfer nifer o’r chwaraeon Gemau’r Gymanwlad i’w defnyddio gyda’r plant cyn ysgol i ddatblygu'r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen ar gyfer iechyd a llesiant, at ddefnydd gyda’r plant yn eich lleoliad ac yn y cartref. Mae’r negeseuon a’r datblygiad sydd i ganlyn pob un o’r rhain yn ein hatgoffa pa mor hawdd yw cefnogi datblygiad plant mewn gweithgaredd pob dydd. Mae yno hefyd dystysgrif y gellir ei argraffu a’i gyflwyno wrth iddyn nhw gwblhau'r tasgau.

 

Rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau’r syniadau hyn gymaint ag oedden ni wrth eu paratoi. Cofiwch bod croeso i chi ein tagio mewn unrhyw postiadau ohonoch ar y cyfryngau cymdeithasol yn profi’r gweithgareddau trwy ddefnyddio’r hashnod #CommonwealthGamesActivityPack

Gallwch ein canfod ar:

  • Facebook: @ EarlyYearsWales2019 / @WelshActive
  • Trydar : @EarlyWales / @WelshActive
  • Instagram: @EarlyWales / @WelshActive
Pecyn Gweithgaredd
AtodiadMaint
PDF icon Beicio cerdyn gweithgaredd1007.18 KB
AtodiadMaint
PDF icon Marchogaeth cerdyn gweithgaredd768.22 KB
AtodiadMaint
PDF icon Hoci cerdyn gweithgaredd867.13 KB
AtodiadMaint
PDF icon Pêl-foli cerdyn gweithgaredd698.81 KB
AtodiadMaint
PDF icon Babanod Dŵr cerdyn gweithgaredd1.23 MB
AtodiadMaint
PDF icon Codi Pwysau cerdyn gweithgaredd580.64 KB
AtodiadMaint
PDF icon Beth yw llythrennedd corfforol?623.57 KB
AtodiadMaint
PDF icon Tystysgrif481.18 KB

Os ydych eisiau aros ar y blaen a chael eich cadw’n gyfredol gyda’r newyddion diweddarach, sylwadau a chynnwys a fydd yn eich galluogi i roi’r cychwyn gorau mewn bywyd i’ch plentyn, beth am ymuno â ni?

Ar hyn o bryd, mae aelodaeth hefyd AM DDIM! I ganfod rhagor, ewch at: https://www.earlyyears.wales/cy/aelodaeth

 

Cysylltwch â ni

 

Defnyddiwch y ffurflen isod i anfon eich ymholiadau a'ch adborth atom ni. *Mae angen gwybodaeth

Ein Swyddfeydd Rhanbarthol

Ble bynnag yr ydych, mae Blynyddoedd Cynnar Cymru’n ceisio bod â swyddfa yn agos atoch chi. Os ydych chi angen ein cefnogaeth, rhowch alwad i ni a gallwn drafod eich ymholiad neu drefnu i un o’n staff cefnogi gyfarfod â chi.

Ein horiau swyddfa yw Dydd Llun – Dydd Gwener (9am – 5pm)