Yn dilyn y sgyrsiau dadlennol a gynhaliwyd gyda'n paneli aelodau ar ddydd Iau
22ain o Fedi, bûm mewn cyfarfod gyda Swyddogion Llywodraeth Cymru ar ddydd Mercher 28ain o Fedi i drafod effaith costau byw ar y sector gofal plant a blynyddoedd cynnar yng Nghymru. Roedd y cyfle i gwrdd â Llywodraeth Cymru wedi fy ngalluogi i fynegi eich barn yn uniongyrchol ac i awgrymu camau gweithredu y gallai’r Swyddogion eu hystyried i gefnogi’r sector drwy’r cyfnod ariannol anodd hwn.
‘Mae hwn yn gyfnod heriol sydd yn cael effaith gynyddol ar arweinwyr a pherchnogion lleoliadau. Pe bai’n her talu biliau yn unig, efallai y byddai’n haws rheoli’r sefyllfa, ond mae pwysau chwyddiant cyffredinol yn cyd-fynd â’r her ddiweddaraf hon gan gynnwys costau bwyd, adnoddau i blant, deunyddiau glanhau a rheoli heintiau, costau biliau, costau rhent, a chostau trafnidiaeth i gyd yn cynyddu'n gyflym. Daw’r cynnydd hwn ar adeg pan rydym yn dal i weld heriau o ran recriwtio a chadw staff ac ar gefn cyfnod o ansicrwydd mawr ynghylch Covid-19 ac mae’r sector yn naturiol yn teimlo’n bryderus.’
Dave Goodger - Prif Swyddog Gweithredol
Roedd y dystiolaeth a ddarparwyd gan leoliadau aelodau yn fy ngalluogi i gyfleu sut mae costau manwerthu wedi dyblu neu hyd yn oed wedi treblu mewn rhai achosion ers 2019, gan restru enghreifftiau penodol. Fe’m helpodd i amlinellu, er gwaethaf y cynnydd yn y gyfradd ym mis Ionawr 2022 ar gyfer y Cynnig Gofal Plant a’r hawl i Addysg Gynnar, fod y costau sy’n cynyddu’n gyflym yn heriau annisgwyl. Ac fe wnaeth y dystiolaeth a ddarparwyd gan ein haelodau fy helpu i ddangos sut mae'r sector yn ceisio ymdopi, heb drosglwyddo costau cynyddol i rieni mewn amrywiaeth o ffyrdd. Ategwyd y safbwyntiau hyn gan randdeiliaid eraill yn y sectorau gofal plant a gwaith chwarae.
Er nad oes unrhyw arwyddion, hyd yn hyn, o unrhyw gymorth y gellid ei ddarparu, byddwn yn parhau i atgoffa Llywodraeth Cymru o’r pwysau y mae’r sector yn ei wynebu. Gwyddom fod pob cyllideb gyhoeddus o dan bwysau, ac rydym yn parhau i ddadlau’r achos, heb sector gofal plant bywiog a chynaliadwy, y bydd yr economi a phlant yng Nghymru ill dau yn dioddef.
Ochr yn ochr â’r sgwrs gyda Llywodraeth Cymru yr wythnos hon, mae Blynyddoedd Cynnar Cymru hefyd wedi ymuno â phanel Llywodraeth y DU i asesu cynllunio risg ar gyfer cynaliadwyedd gofal plant; gweithgor Llywodraeth Cymru i archwilio unrhyw gofrestr broffesiynol ar gyfer y gweithlu yn y dyfodol, ac rydym ni hefyd yn barod i gyflwyno ein hymateb i’r adolygiad arfaethedig o’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol (SGC) ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed, (mae’r ymgynghoriad yn cau ddydd Gwener 7 Hydref, https://llyw.cymru/newidiadau-ir-safonau-gofynnol-cenedlaethol-ar-gyfer-gofal-plant-reoleiddir)
Rydym yn ymrwymo i weithio o fewn y pwyllgorau a’r gweithgorau hyn, ac i fynychu cyfarfodydd i hyrwyddo’r sector ar ran ein haelodaeth, ac i eirioli dros y canlyniadau gorau ar gyfer y sector blynyddoedd cynnar yn ei gyfanrwydd yng Nghymru. Diolch i aelodau’r panel aelodau a ymatebodd i’r alwad am dystiolaeth. Os hoffech i ni gysylltu â chi ar gyfer sgyrsiau panel aelodau yn y dyfodol cliciwch yma am ragor o wybodaeth ac i enwebu cynrychiolydd.