Astudiaeth Genedlaethol ar Weithrediad y Cyfnod Sylfaen

Astudiaeth Genedlaethol ar Weithrediad y Cyfnod Sylfaen

 

Welsh Government
Mwy

Anogir ysgolion a meithrinfeydd ledled Cymru i gymryd rhan yn Arolwg Cenedlaethol Ymarferwyr Arweiniol y Cyfnod Sylfaen sy’n cael ei gynnal gan Brifysgol Caerdydd gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Mae’r arolwg yn ffurfio rhan o ymchwiliad i weithrediad parhaus y Cyfnod Sylfaen ledled Cymru ac mae’n anelu at gael darlun cenedlaethol o ganfyddiadau a darpariad. Mae’n cymryd hyd at 10 munud i’w gwblhau, mae’n gwbl anhysbys ac mae i holl aelodau staff sydd â chyfrifoldeb penodol am y Cyfnod Sylfaen. Bydd cyfraniadau yn helpu i wella ein dealltwriaeth o’r modd y caiff polisi addysgol fel y Cyfnod Sylfaen ei weithredu, ac yn bwysig iawn, mae gan hynny’r potensial i helpu i lywio’r Cyfnod Sylfaen ymhellach yng Nghymru. Gwerthfawrogir eich help yn fawr iawn.

Cliciwch yma am ddolen i’r arolwg: https://socsi.qualtrics.com/jfe/form/SV_9ZDf38Ttm8UBNjf

Page contents

Mwy