Nodau Natur

Pwrpas y sesiwn yw rhannu adnodd arloesol Nodau Natur/Nature Notes, cynhyrchwyd hynny yn wreiddiol drwy gyfrwng y Gymraeg a'i gomisiynu gan Fudiad Meithrin.

Mae'r adnodd bellach wedi cael ei gydnabod am ei bwysigrwydd i'r sector blynyddoedd cynnar ac mae wedi cael ei gomisiynu i'w addasu i'r Saesneg gan Flynyddoedd Cynnar Cymru.

Toddler wearing a white fluffy coat playing in leaves
dydd Iau, 23 Tachwedd, 2023 - 18:00 to 19:00

Venue: 

Ar-lein
Cynulleidfa
  • Dysgu sylfaen,
  • gweithlu gofal plant,
  • rheolwyr meithrin,
  • gwarchodwyr plant

Bydd cynnwys y sesiwn yn cynnwys y gallu i: 

  • Dod yn gyfarwydd â chynnwys yr adnodd sy'n cefnogi gwerthfawrogiad o ddiwylliannau amrywiol Cymru
  • Datblygu gwybodaeth am sut mae rhigymau/caneuon yn cyfoethogi datblygiad plant ifanc
  • Trafod effaith dathlu amrywiaeth, a chyfoeth diwylliannau eraill sy'n ein hamgylchynu, drwy rigymau

Cewch eich tywys drwy'r adnodd amlieithog newydd i ddod yn gyfarwydd â chaneuon ac arferion o Gymru a diwylliannau ac ieithoedd eraill gan gynnwys Bangla, Pwyleg, Wrdw a Rwmania.

Yn dilyn y sesiwn, gellir cyrchu'r adnodd ar wefan Blynyddoedd Cynnar Cymru sy'n eich galluogi i fwynhau ei gynnwys gyda'r plant ar unwaith.

Yn ogystal, bydd yr adnodd yn cefnogi'r gwaith o osod staff sy'n gweithio gyda phob plentyn, gan gynnwys rhai teuluoedd nad Saesneg na Chymraeg yw eu hiaith gyntaf.. Bydd yr adnoddau'n agor drws i blant ac ymarferwyr i ieithoedd newydd a'r diwylliannau cyfoethog sydd o'n gwmpas. Bydd yr adnoddau ar gael am ddim i bob aelod yn dilyn yr hyfforddiant.

£5.00 ffî archebu lle. Aelodau Bylnyddoedd Cynnar Cymru'n unig

Os hoffech chi ymuno, cliciwch ar Cofrestru a chwblhewch y ddesg dalu i sicrhau eich lle.

Un archeb fesul ffurflen. Os hoffech archebu mwy nag un person ar y tro, llenwch ffurflen archebu ar gyfer y mynychwr cyntaf, ychwanegwch at y cart ac yna dewiswch "parhau i siopa" i lenwi ffurflen archebu ar gyfer pob unigolyn sy'n mynychu. Unwaith y bydd yr holl ffurflenni archebu wedi'u cwblhau, parhewch i dalu.

Telerau ac Amodau

Drwy gymryd rhan yn yr hyfforddiant hwn, rydych yn cadarnhau eich bod wedi darllen a chytuno â Pholisi Preifatrwydd Blynyddoedd Cynnar CymruTelerau Defnyddio a Thelerau ac Amodau

Iaith

Bydd Nodau Natur yn cael ei gyflwyno drwy'r Saesneg. Os oes angen gwasanaeth dehongli Saesneg – Cymraeg, nodwch eich dewis iaith ar y ffurflen archebu

*Sylwer, bydd gwasanaeth dehongli dim ond ar gael pan fydd o leiaf 20% o’r mynychwyr wedi nodi bod angen un arnynt.
 


Ddim yn aelod? Mae aelodaeth ar hyn o bryd AM DDIM, ewch at ein tudalen aelodaeth am ragor o fanylion.