Venue:
Yn ystod y sesiwn hanner diwrnod hon, rydym yn canolbwyntio ar sut mae'r amgylchedd dysgu, y tu mewn a'r tu allan, yr oedolion a'r profiadau o ansawdd i gyd yn dod at ei gilydd i ddylanwadu ar ddysgu dwfn I blant ifanc.
Trwy ddathlu diddordebau plant, rydym yn sicrhau lefelau uchel o les ac ymgysylltu ac yn dod â'r pum llwybr datblygiadol yn fyw.
Cydbwysedd gwych o wybodaeth gefndir a chamau ymarferol i ymarferwyr blynyddoedd cynnar eu gweithredu; mae'n sesiwn na ddylid ei cholli!
- Myfyrio ar fanteision a heriau cynllunio ymatebol.
- Dod o hyd i ffyrdd o ddal diddordebau eu plant a galluogi dysgu chwareus i esblygu.
- Sicrhau her ym mhob profiad, gan ddechrau o gam ddatblygiad presennol y plentyn.
- Ystyried sut mae cynllunio ymatebol yn cefnogi pob un o'r pum llwybr datblygu.
- Cofnodi ac ymateb i gyfleoedd dysgu sylweddol I blant ifanc.
- Datblygu ffyrdd o gofnodi a myfyrio ar gynllunio ymatebol ac adeiladu cyfleoedd dysgu digymell.
Am ddim.
Telerau ac Amodau
Drwy gymryd rhan yn yr hyfforddiant hwn, rydych yn cadarnhau eich bod wedi darllen a chytuno â Pholisi Preifatrwydd Blynyddoedd Cynnar Cymru, Telerau Defnyddio a Thelerau ac Amodau
Iaith
Bydd digwyddiad yn cael ei gyflwyno drwy'r Saesneg. Os oes angen gwasanaeth dehongli Saesneg – Cymraeg, nodwch eich dewis iaith ar y ffurflen archebu
*Sylwer, bydd gwasanaeth dehongli dim ond ar gael pan fydd o leiaf 20% o'r mynychwyr wedi nodi bod angen un arnynt.