Venue:
Rheolwyr gofal plant I Gwarchodwyr Plant I Person Diogelu Dynodedig (DSP) I Unigolion Cyfrifol (RIs),
Mae hwn yn lefel uwch a bydd angen i ddysgwyr fod wedi cwblhau categorïau A&B neu hyfforddiant diogelu blaenorol.
- Penderfyniad Cychwynnol
- Trafod Strategaeth
- Ymholiadau Adran 47
- Cynhadledd Amddiffyn Plant
- Cynllun amddiffyn plant / Cofrestr amddiffyn plant.
- Dadgofrestru
- Adolygiad Ymarfer Plant (Adolygiad Unedig Sengl)
- Her Broffesiynol – Gallu dwysáu a gweithredu lle mae pryderon am niwed, cam-drin neu esgeulustod yn parhau, neu pan nad yw pryderon wedi cael sylw ar ôl adrodd.
- Lles a chyfeirio
Gofyniad SGC yw bod yr hyfforddiant hwn yn darparu 12 awr o amser dysgu a addysgir. Mae'r sesiynau'n cael eu rhannu mewn i dri bloc pedair awr fel bod myfyrio a’r llyfr gwaith wedi'i darparu yn cael ei chwblhau rhwng sesiynau. Mae angen mynychu pob sesiwn i fod yn cydymffurfio.
Rhaid i'r holl staff fynychu hyfforddiant diogelu sy'n addas i'w rôl a rhaid cyflawni pob gofyniad newydd mewn perthynas â’r hyfforddiant Diogelu erbyn diwedd Tachwedd 2024. Cyfrifoldeb y person sy'n mynychu'r hyfforddiant fydd i cynhyrchu'r dystysgrif a'r llyfr gwaith sy'n cynnwys y dystiolaeth a gwmpesir yn y cwrs hwn i'w chyflwyno i AGC wrth archwilio.
*Mae'n ofynnol i ddysgwyr fynychu'r ddwy sesiwn i gwblhau'r hyfforddiant
Telerau ac Amodau
Drwy gymryd rhan yn yr hyfforddiant hwn, rydych yn cadarnhau eich bod wedi darllen a chytuno â Pholisi Preifatrwydd Blynyddoedd Cynnar Cymru, Telerau Defnyddio a Thelerau ac Amodau
Iaith
Bydd digwyddiad yn cael ei gyflwyno drwy'r Saesneg. Os oes angen gwasanaeth dehongli Saesneg – Cymraeg, nodwch eich dewis iaith ar y ffurflen archebu
*Sylwer, bydd gwasanaeth dehongli dim ond ar gael pan fydd o leiaf 20% o'r mynychwyr wedi nodi bod angen un arnynt.