Diogelu – Categori B

Nod y cwrs lefel canolradd hwn yw sicrhau bod cyfranogwyr yn gwybod beth i chwilio amdano a chael gwybodaeth glir am y broses adrodd a'u cyfrifoldebau eu hunain.

Child playing in leaves being protected by a multicolour umbrella
dydd Llun, 2 Hydref, 2023 - 09:30 to dydd Mawrth, 3 Hydref, 2023 - 16:30

Venue: 

Ar-lein
Cynulleidfa
  • Y gweithlu gofal plant
  • Rheolwyr Meithrin
  • Gweithwyr Meithrinfa
  • Gwarchodwyr Plant a chynorthwywyr gwarchodwyr
  • Nani,
  • Unigolion Cyfrifol (RIs),
  • Person DiogeluDynodedig (DSP)

Ar ôl cwblhau'r cwrs bydd pawb sy'n cymryd rhan yn ymwybodol o:

Rolau diogelu:

  • Rôl a chyfrifoldebau ddiogelu chi ac eich lleoliad
  • Rolau gwahanol asiantaethau ac eraill sy'n ymwneud â diogelu lles plant.

Gweithio mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar blant – sut i:

  • Cydbwyso hawliau plentyn â'ch dyletswydd gofal
  • hybu llais plentyn bob amser.

Aelodaeth yng Nghymru:

  • Sut i weithio mewn ffyrdd sy'n cadw CHI’N ddiogel rhag cam-drin, niwed neuesgeulustod.
  • Sut i gael gafael ar gymorth a hyfforddiant i feddwl am a gwella gwybodaeth, sgiliauac ymarfer diogelu.
  • Sut i gael cyngor a chefnogaeth, os oes angen.

Cydnabod Risg:

  • Pam y gallai rhai plant fod mewn mwy o berygl o gael eu cam-drin, niwed neuesgeulustod,
  • Pam efallai fydd pobl ddim yn datgelu camdriniaeth
  • Nodweddion ymddygiad ymosodol - gan gynnwys bwlio a meithrin perthynasamhriodol, ymddygiadau Trais.

Cwblhau Ffurflen Atgyfeirio Amlasiantaethol (MARF):

  • Canllawiau ymarferol ar gwblhau Adroddiad/Atgyfeiriad Diogelu Plant.
  • Sut i ddelio â rhwystrau i staff/gwirfoddolwyr adrodd neu godi pryderon
  • Sut i ddilyn polisi chwythu'ch sefydliad.

£30.00 Aelodau
£60.00 Rhai nad ydyntyn aelodau

Os hoffech chi ymuno, cliciwch ar Cofrestru a chwblhewch y ddesg dalu i sicrhau eich lle.

Un archeb fesul ffurflen. Os hoffech archebu mwy nag un person ar y tro, llenwch ffurflen archebu ar gyfer y mynychwr cyntaf, ychwanegwch at y cart ac yna dewiswch "parhau i siopa" i lenwi ffurflen archebu ar gyfer pob unigolyn sy'n mynychu. Unwaith y bydd yr holl ffurflenni archebu wedi'u cwblhau, parhewch i dalu.

Telerau ac Amodau

Drwy gymryd rhan yn yr hyfforddiant hwn, rydych yn cadarnhau eich bod wedi darllen a chytuno â Pholisi Preifatrwydd Blynyddoedd Cynnar CymruTelerau Defnyddio a Thelerau ac Amodau

Iaith

Bydd Diogelu – Categori B yn cael ei gyflwyno drwy'r Saesneg. Os oes angen gwasanaeth dehongli Saesneg – Cymraeg, nodwch eich dewis iaith ar y ffurflen archebu

*Sylwer, bydd gwasanaeth dehongli dim ond ar gael pan fydd o leiaf 20% o’r mynychwyr wedi nodi bod angen un arnynt.


Ddim yn aelod? Mae aelodaeth ar hyn o bryd AM DDIM, ewch at ein tudalen aelodaeth am ragor o fanylion.