Creu Amgylcheddau Siampên ar Gyfrif Lemonêd

Nid oes rhaid torri'r banc i greu lleoedd Blynyddoedd Cynnar ysbrydoledig ac o ansawdd uchel.

Child playing in a setting environment
dydd Mercher, 1 Hydref, 2025 - 18:30 to 20:00

Venue: 

Online

Yn y weminar fywiog ac ymarferol hon, mae'r ymgynghorydd blynyddoedd cynnar enwog Kirstine Beeley yn rhannu llu o syniadau creadigol a fforddiadwy i'ch helpu i drawsnewid eich amgylchedd dysgu – beth bynnag fo'ch cyllideb.

Wedi'i ddatblygu'n arbennig ar gyfer Blynyddoedd Cynnar Cymru, bydd y sesiwn hon yn archwilio ffyrdd arloesol o gynllunio a darparu adnoddau sy'n ennyn chwilfrydedd, yn cefnogi arfer gorau, ac yn gwneud y mwyaf o'r hyn sydd gennych.

O ailgylchu clyfar i ddod o hyd i adnoddau cost isel, byddwch yn gadael llawn syniadau ymarferol y gallwch eu rhoi ar waith ar unwaith. P'un a ydych eisiau adnewyddu eich lleoliad, hybu ymgysylltiad, neu wneud mwy gyda llai, bydd y sesiwn ysbrydoledig hon yn profi y gall ychydig o ddychymyg fynd yn bell iawn.

Pwyntiau allweddol:
  •  Syniadau ymarferol, cost isel i drawsnewid eich mannau dan do ac awyr agored
  • Datrysiadau adnoddau creadigol i ymestyn eich cyllideb ymhellach
  • Strategaethau i gefnogi profiadau dysgu o ansawdd uchel sy'n cael eu harwain gan y plentyn
  • Ysbrydoliaeth i helpu'ch amgylchedd i ddisgleirio – beth bynnag yw eich man cychwyn

£15 aeoldau
£30 heb aelodaeth

Telerau ac Amodau

Drwy gymryd rhan yn yr hyfforddiant hwn, rydych yn cadarnhau eich bod wedi darllen a chytuno â Pholisi Preifatrwydd Blynyddoedd Cynnar CymruTelerau Defnyddio a Thelerau ac Amodau

Iaith

Bydd digwyddiad yn cael ei gyflwyno drwy'r Saesneg. Os oes angen gwasanaeth dehongli Saesneg – Cymraeg, nodwch eich dewis iaith ar y ffurflen archebu

*Sylwer, bydd gwasanaeth dehongli dim ond ar gael pan fydd o leiaf 20% o'r mynychwyr wedi nodi bod angen un arnynt.