Venue:
Y siaradwyr gwadd ym mis Medi fydd Gogerddan Childcare Ltd., sydd wedi'i leoli yng Ngheredigion. Bydd aelod o'u tîm yn rhannu sut maent wedi datblygu eu hamgylcheddau, eu hadnoddau a'u hymarfer yn unol â'r cwricwlwm nas cynhelir sydd wedi eu galluogi i gyflawni sgôr Ardderchog ym mhob un o'r chwe maes yn eu harolygiad diweddar gan Estyn. Mae hyn i gyd yn cael ei gyflawni wrth ddefnyddio adnoddau cynaliadwy sy'n hyrwyddo lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu.
Am ddim i aelodau
Os hoffech chi ymuno, cliciwch ar Cofrestru a chwblhewch y ddesg dalu i sicrhau eich lle.
Un archeb fesul ffurflen. Os hoffech archebu mwy nag un person ar y tro, llenwch ffurflen archebu ar gyfer y mynychwr cyntaf, ychwanegwch at y cart ac yna dewiswch "parhau i siopa" i lenwi ffurflen archebu ar gyfer pob unigolyn sy'n mynychu. Unwaith y bydd yr holl ffurflenni archebu wedi'u cwblhau, parhewch i dalu.
Telerau ac Amodau
Drwy gymryd rhan yn yr hyfforddiant hwn, rydych yn cadarnhau eich bod wedi darllen a chytuno â Pholisi Preifatrwydd Blynyddoedd Cynnar Cymru, Telerau Defnyddio a Thelerau ac Amodau
Iaith
Bydd digwyddiad yn cael ei gyflwyno drwy'r Saesneg. Os oes angen gwasanaeth dehongli Saesneg – Cymraeg, nodwch eich dewis iaith ar y ffurflen archebu
*Sylwer, bydd gwasanaeth dehongli dim ond ar gael pan fydd o leiaf 20% o'r mynychwyr wedi nodi bod angen un arnynt.