Category: 

smalltalk - Mai 2023

smalltalk ... yn cefnogi'r sector blynyddoedd cynnar yng Nghymru am dros 30 mlynedd.

Cyhoeddwyd gwanwyn 1986, a'i bostio am ddim i holl aelodau Blynyddoedd Cynnar Cymru. smalltalk yw'r teitl y mae'n rhaid ei ddarllen ar gyfer darparwyr addysg blynyddoedd cynnar a gofal plant blynyddoedd cynnar yng Nghymru.

P'un a ydych chi'n chwilio am syniadau i'w gweithredu yn y lleoliad neu i'ch helpu gyda'ch hyfforddiant a'ch datblygiad, am gael y wybodaeth ddiweddaraf am y newidiadau cwricwlwm neu'r newidiadau diweddaraf mewn deddfwriaeth, mae ein cylchgrawn 64-dudalen, cwbl ddwyieithog, lliw llawn, yn llawn dop o erthyglau i'ch ysbrydoli i wreiddio a llywio ymarfer o ansawdd uchel, wrth barhau i redeg busnes llwyddiannus.

Croeso i rifyn Mai 2023 smalltalk

Beth sydd ar y clawr?

Bilingual excellence in the early years. On page 8 we meet Aberporth Bilingual Playgroup in Ceredigion. In their latest Estyn report they demonstrated Excellence across the board. Melanie Williams delves in to find out how they are embracing the Welsh language, and as a result meeting the needs of their community.

Let's have a story! Reading brings a wide range of benefits with lifelong impact for children and the adults they will become. In this 7-page feature we bring you articles from a wide range of authors.

  • Booktrust Cymru talk to us about the benefits of sharing stories together in the early years (page 26)
  • Alison Rees Edwards, Director of Early Years programmes, and Glenda Tinney, Admissions Tutor for the Early Years programmes at University of Wales Trinity St David, explain how they support students with their storytelling and confidence skills (page 27)
  • Splice Child and Family Project Ltd, Bridgend tell us all about the fun they had when they took part in a book-writing project (page 30)
  • Early Years Wales partners TTS share some storytelling ideas and inspiration on page 31, one lucky member can also win an Alice Sharp's Pond of Poetry (rrp £101.99) by answering one very simple question.

Darllenwch ymlaen am restr lawn o'r cynnwys...

4. Y Cwricwlwm: cefnogaeth, dogfennau a hyfforddiant

Trosolwg cryno o sut y gall Blynyddoedd Cynnar Cymru gefnogi aelodau i weithredu’r Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir..

5. Hysbyseb - Dathlu’r Sector Blynyddoedd Cynnar yng Nghymru

Blas o’r hyn y byddwch chi’n ei brofi yn ein cynhadledd a’n seremoni wobrwyo ym mis Mehefin. Archebwch eich tocynnau nawr!

6. Gwarchodwyr plant creadigol ar draeth Conwy

Clywn sut y bu i un grŵp o warchodwyr plant greu celf ar y traeth gyda chymorth grant Blynyddoedd Cynnar Cymru.

8. Cipolwg ar ragoriaeth ym maes dwyieithrwydd yn y blynyddoedd cynnar – mae’r Gymraeg yn perthyn i ni gyd.

Rydym yn rhannu esiampl un lleoliad yng Ngheredigion sydd wedi cofleidio’r Gymraeg ac sy’n defnyddio’r iaith i ddiwallu anghenion y gymuned.

11. Hysbyseb - Archwilio lleferydd ac iaith

Sut y gall gwefan Tiny Happy People y BBC eich helpu chi a’ch tîm i gefnogi sgiliau iaith a chyfathrebu plant.

12. Gwella iechyd deintyddol

Nid oes amser pwysicach na’r presennol i addysgu plant am eu hiechyd deintyddol. Mae Karen Coates o Sefydliad Iechyd y Geg yn rhannu llawer o awgrymiadau ac adnoddau y gellir eu defnyddio yn eich lleoliadau.

16. Dilyn y llwybr cywir tuag at ddyfodol meddyliol iach.

Sut mae Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy Bro Morgannwg yn cydweithio â Rhaglen PATHS® yr elusen Barnardos.

18. Pwysigrwydd sain, a sut i gefnogi archwilio sonig a cherddorol ymysg plant.

Tim Baker yw Artist Cerddoriaeth Preswyl yr elusen anabledd genedlaethol, Sense. Mae’n egluro sut y gall rhieni, gofalwyr a gweithwyr gofal plant proffesiynol greu profiadau synhwyraidd i blant drwy sain.

21. Y llawenydd o fyw gydag anifeiliaid anwes: sut y gall anifeiliaid fod o fudd i ddatblygiad, iechyd a lles plant

Mae’r DU yn genedl sydd yn caru anifeiliaid. Clywn gan leoliadau ledled Cymru sydd wedi cyflwyno anifeiliaid yn eu lleoliadau mewn ffyrdd gwahanol iawn.

24. Pwy yw’r RSPCA?

David Allen, Pennaeth Atal ac Addysg sydd yn siarad â ni am strategaeth atal newydd yr elusen ac yn rhannu adnoddau y gellir eu defnyddio yn eich lleoliadau.

26. Prif stori… Manteision rhannu straeon gyda’n gilydd yn ystod y blynyddoedd cynnar

Booktrust Cymru sy’n egluro pwysigrwydd darllen gyda babanod yn ystod y 6 mis cyntaf.

27. Gawn ni stori? Cefnogi hyder a sgiliau dweud stori myfyrwyr y blynyddoedd cynnar

Gall adrodd straeon fod yn faes heriol i ymarferwyr blynyddoedd cynnar yn nhermau hyder. Mae’r Tîm Blynyddoedd Cynnar ym Mhrifysgol y Drindod Dewi

Sant yn egluro sut maen nhw’n helpu myfyrwyr i oresgyn yr her yma wrth astudio

30. Shirley’r ddafad; stori am berthyn

Y ‘Splice Child and Family Project’ yn sôn am eu prosiect ysgrifennu llyfr diweddaraf.

28. CYSTADLEUAETH! Syniadau ac Ysbrydoliaeth ar gyfer Adrodd Straeon gyda TTS

Diolch i’r tîm yn TTS, mae ganddon ni ‘Alice Sharp Pond of Poetry’ i’w roi i un aelod lwcus!

 

£2.50