Category:
smalltalk - haf 2022




smalltalk ... yn cefnogi'r sector blynyddoedd cynnar yng Nghymru am dros 30 mlynedd.
Cyhoeddwyd bob chwarter ers gwanwyn 1986, a'i bostio am ddim i holl aelodau Blynyddoedd Cynnar Cymru. smalltalk yw'r teitl y mae'n rhaid ei ddarllen ar gyfer darparwyr addysg blynyddoedd cynnar a gofal plant blynyddoedd cynnar yng Nghymru.
P'un a ydych chi'n chwilio am syniadau i'w gweithredu yn y lleoliad neu i'ch helpu gyda'ch hyfforddiant a'ch datblygiad, am gael y wybodaeth ddiweddaraf am y newidiadau cwricwlwm neu'r newidiadau diweddaraf mewn deddfwriaeth, mae ein cylchgrawn 64-dudalen, cwbl ddwyieithog, lliw llawn, yn llawn dop o erthyglau i'ch ysbrydoli i wreiddio a llywio ymarfer o ansawdd uchel, wrth barhau i redeg busnes llwyddiannus.
Croeso i rifyn yr haf 2022 o smalltalk
Beth sydd gan Tik-Tok Fridays, Tummy Time, Instagram, Tiny Happy People a Roger the Spider yn gyffredin?
Darllenwch ymlaen, i gael blas o beth arall sydd y tu mewn
4. Amser stori a symud ym Mharc Treorci
Neidio’r pyllau gyda Roger y pry copyn a’i ffrindiau!
5. Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir
I gefnogi’r Cwricwlwm newydd i Gymru, mae’r Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir wedi’i ddylunio gan y sector ar gyfer y sector.
6. Cynllunio yn y foment gyda phlant ifanc a rôl yr oedolyn
Ydych chi erioed wedi ceisio dyfalu sut mae cynllunio “yn y funud” yn gweithio? Anfonwyd Kate Lyons i gael gwybod.
8. Y Cynnig Gofal Plant i Gymru: Gwasanaeth Digidol Cenedlaethol
Mae’r gwasanaeth digidol cenedlaethol newydd yn addo dod â chysondeb i rieni a darparwyr sy’n ceisio cael mynediad at y Cynnig Gofal Plant.
9. Y pwysigrwydd o frandio cyflogwr wrth recriwtio a chadw gweithlu medrus
Mae ein stori glawr y rhifyn hwn yn ystyried pwysigrwydd brandio cyflogwr wrth recriwtio a chadw’r bobl iawn ar gyfer eich tîm.
10. Sut i roi mwy o sglein ar eich hysbysebion swyddi
Ein hawgrymiadau gorau i ddenu’r ymgeiswyr gorau.
12. Blynyddoedd Cynnar Cymru; yn eich cefnogi i gyrraedd eich nodau gyrfa
Ydych chi wedi archebu lle i’ch staff ar unrhyw un o’n cyrsiau hyfforddi a datblygu’r gweithlu eto? Mae’n rhaid codi sgiliau a safonau ymysg ymarferwyr blynyddoedd cynnar a gofal plant os ydym i wella canlyniadau i holl blant Cymru. Mae Rhaglen Datblygu Gweithlu newydd Blynyddoedd Cynnar Cymru wedi’i datblygu i wneud hyn.
14. Fframwaith sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer blynyddoedd cynnar a gofal plant – yr allwedd i’ch datblygiad proffesiynol
Mae fframwaith sefydlu Cymru Gyfan (AWIF) yn rhoi hyder i reolwyr fod eu holl staff yn cael eu cefnogi’n gyfartal, o sefydlu a thrwy holl ffordd eu gyrfa.
15. Sut mae aelodau Blynyddoedd Cynnar Cymru’n diogelu yn erbyn y problemau recriwtio a chadw sy’n eu hwynebu ar ôl Covid
Mae dau leoliad aelodau yn rhannu sut y maen nhw’n taclo rhai o’r problemau recriwtio a chadw staff sy’n eu hwynebu ar hyn o bryd.
18. Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a Diogelu
Mae Carol Eland, Cynghorydd Ymestyn Allan Rhanbarthol Cymru yn y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, yn amlinellu’r cynnyrch a’r gwasanaethau sydd ar gael gan y sefydliad i helpu cyflogwyr i gymryd penderfyniadau recriwtio diogelach.
20. Lles yn y gwaith; addewid llesiant i’r tîm
Roedd gorbryder a stres mewn cysylltiad â gwaith yn bryder mawr ymysg ymarferwyr blynyddoedd cynnar cyn Covid. Gwahoddwyd Rachael’s Playhouse yn Rhondda Cynon Taf yn ôl i smalltalk i egluro pam fod llesiant staff mor bwysig nawr ag erioed.
24. Darn nodwedd hysbysebu Babi Actif yn y Cartref (Cwrs 2 ddiwrnod
Hyfforddi’r Hyfforddwr)
Darllenwch y cyfan am ein cwrs hyfforddi Newydd sydd wedi ei ddatblygu i roi’r sgiliau, yr wybodaeth a’r adnoddau angenrheidiol i ymarferwyr i ddarparu’r
rhaglen 6 wythnos Babi Actif yn y Cartref.
26. Chwarae ar y llawr – Ymholiad
Fel ymarferwyr rydym wedi arfer â threulio llawer o amser ar y llawr, ond ydych chi wedi meddwl ynghylch sut y byddwch yn defnyddio’r llawr o gymharu â sut mae’r plant yn ei ddefnyddio? Gwarantir y bydd yr erthygl hon yn mynd â chi ar daith newydd sbon.
30. Darn nodwedd hysbysebu Pwysigrwydd chwarae
Sut mae Tiny Happy People y BBC yn gallu eich helpu chi a’ch tîm gefnogi rhieni ac annog amser chwarae yn y cartref.
31. Ein Canllaw i’r Rheolau a Gwaharddiadau cyfarfodydd rhithiol
Yn ôl LinkedIn “Sori, roeddwn i ar miwt” oedd dyfyniad 2020. Rydym wedi casglu ein canllawiau ni’n hunain ar gyfer etiquette cyfarfod rhithiol.
32. Mae TTS a Consortium yn falch o fod mewn partneriaeth â Blynyddoedd Cynnar Cymru.
Codau disgownt unigryw i aelodau pan fyddwch yn archebu gyda TTS
Aelodau: peidiwch ag anghofio mewngofnodi cyn ychwanegu eitemau at eich cart i ddefnyddio eich gostyngiad aelod. I gofrestru fel aelod ewch i'n tudalen aelodaeth.